Wythnos Ffocws GDD 2021
Cynhaliwyd Wythnos Ffocws GDD yn Mis Mawrth 2021, digwyddiad cenedlaethol i ddathlu, rhannu a llywio’r defnydd o GAD.
Roedd yr wythnos ddysgu a rhannu hon yn dathlu gwaith o bob rhan o Gymru parthed y ddarpariaeth a chynnydd dysgwyr difreintiedig trwy wariant GDD wedi’i dargedu.
Roedd yr wythnos wedi ei gynllunio i dynnu sylw at bwysigrwydd cyd-osod y GDD gydag ymyriadau sy’n seiliedig ar ymchwil a datblygiad mewn arferion Addysgu a Dysgu i gynorthwyo’r dysgwr difreintiedig ac i gymryd rhan mewn dysgu wyneb yn wyneb.
Yn ystod yr wythnos, cyflwynodd y consortia, ysgolion a lleoliadau a phartneriaid proffesiynol ystod o weithdai datblygiad proffesiynol, trafodaethau a sgyrsiau.
Cliciwch yma ar gyfer cael mynediad i gyflwyniadau siaradwyr allweddol ynghyd a’r adnoddau.