Croeso i GwE
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol gogledd Cymru sydd yn gweithio ochr yn ochr â ac ar ran awdurdodau lleol gogledd Cymru.
Craidd ein gwaith yw uchelgais gwirioneddol i weld yr ysgolion a’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Yn Gymry balch ac â gwybodaeth ryngwladol, byddwn yn cefnogi ein ysgolion i ddod yn sefydliadau dysgu llwyddiannus a hyderus. Cydweithiwn i sicrhau’r hinsawdd a’r addysg y mae pob dysgwr yn ei haeddu er mwyn bod yn unigolion galluog a gwydn sy’n gwireddu eu llawn botensial.