System Archebu Profion Darllen a Rhifedd [Rhesymu] Cenedlaethol
CYFLWYNIAD I ASESIADAU PERSONOL
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno asesiadau personol ar-lein o’r flwyddyn academaidd yma ymlaen a byddant yn disodli’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol dros gyfnod o dair blynedd. Diben ffurfiannol sydd i’r asesiadau personol a’r Profion Cenedlaethol papur – er mwyn cael gwell golwg ar sgiliau’r dysgwyr y gall athrawon eu defnyddio i gynllunio camau nesaf yr addysgu a’r dysgu. Mae natur ‘addasol’ yr asesiadau personol yn golygu bod pob cwestiwn a gynhyrchir wedi’i seilio ar ymateb y dysgwr i’r cwestiwn blaenorol. Bydd pob dysgwr yn cael rhai cwestiynau’n gywir a rhai’n anghywir, ac mae hyn yn fodd o gasglu gwybodaeth am yr hyn y gall pob dysgwr ei wneud a’r hyn na all ei wneud. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i greu adborth unigol ac adroddiadau grŵp.
Bydd y wefan ar gyfer yr asesiadau ar gael o wythnos gyntaf mis Rhagfyr ymlaen. Gall aelodau’r staff a dysgwyr weld y wefan drwy Hwb platfform dysgu ar-lein Llywodraeth Cymru, drwy ddefnyddio eu gwybodaeth mewngofnodi i Hwb. Am wybodaeth am sut y mae defnyddwyr yn gweld eu henwau defnyddwyr a’u cyfrineiriau ar Hwb defnyddiwch y ddolen yma https://hwb.gov.wales/getting-started.
Yn y lle cyntaf, mae angen i’r pennaeth gael cytundeb y caiff yr asesiadahttps://hwb.gov.wales/getting-startedu eu gweinyddu yn unol â Llawlyfr gweinyddu’r profion (sy’n ymdrin â’r asesiadau personol). Mae angen i’r pennaeth, neu’r person â chyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo iddo, bennu’r swyddogaethau a mynediad (e.e. i grŵp blwyddyn penodol) i aelodau’r staff. Bydd y swyddogaethau a bennwyd yn penderfynu pa weithgareddau y gall aelodau’r staff eu gwneud ar y wefan asesiadau.
Bydd amrywiaeth o ddeunyddiau ategol ar gael ar y wefan asesiadau gan gynnwys canllawiau i ddefnyddwyr a fideos. Bydd aelodau’r staff hefyd yn gallu cofrestru ar gyfer sesiynau gweminar er mwyn gwella eu dealltwriaeth.
Bydd cyhoeddiad pellach yn cael ei wneud yng nghylchlythyr Dysg er mwyn rhoi gwybod i ysgolion pryd y bydd y wefan asesiadau yn barod i’w defnyddio. Yn y cyfamser, gallwch baratoi ar gyfer yr asesiadau personol drwy sicrhau:
- bod system gwybodaeth reoli (MIS) eich ysgol wedi’i diweddaru; a
- bod cleient darparu newydd Hwb yn rhedeg yn rheolaidd; a
- eich bod chi wedi ymgyfarwyddo â’r canllawiau TG ar gyfer yr asesiadau personol.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2-9 wneud yr Asesiad Personol mewn Rhifedd (Gweithdrefnol) unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd yma, yn ogystal â’r Prawf Darllen Cenedlaethol a’r Prawf Rhifedd Cenedlaethol (Rhesymu) papur.
Papur briffio i randdeiliaid – Asesiadau personol – 20181112