Rôl Cymdeithion yr Academi
Cyhoeddi rolau newydd cyffrous ‘Cymdeithion yr Academi’ gyda’r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol
Mae’r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol yn cynnig nifer fach o rolau ‘Cymdeithion’ i benaethiaid mewn swydd. Bydd Cymdeithion yn gweithio un diwrnod yr wythnos yn helpu i ddatblygu’r Academi newydd, gan gynnwys llunio ei rhaglen arweinyddiaeth lefel uchel gyntaf a chraffu ar y rhaglenni a gyflwynir i’w cymeradwyo.
Bydd y Cymdeithion hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen datblygu lefel uchel wedi’i theilwra (10 diwrnod o hyd) er mwyn datblygu eu sgiliau arwain ymhellach.
Bydd rôl y Cymdeithion, y cyntaf o’u math, yn gyfoethog ac yn amrywiol. Bydd angen iddynt deithio ledled Cymru a thu hwnt efallai, a byddant yn dod i gysylltiad ag unigolion blaenllaw ym maes arweinyddiaeth addysgol.
Caiff ysgolion eu talu am yr amser y bydd y Penaethiaid i ffwrdd o’r ysgol ar gyfradd o £12,000 y flwyddyn. Yr Academi fydd yn talu am gostau teithio a chynhaliaeth y Penaethiaid.
Yr Academi
Mae’r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod Cymru yn lle gwych i fod yn arweinydd addysg, gydag arweinyddiaeth o ansawdd uchel ym mhob un o’n hysgolion. Bydd yn sicrhau, yn meithrin ac yn ysbrydoli arweinwyr er mwyn helpu i wireddu ‘ein huchelgais genedlaethol’ ar gyfer dysgwyr a’r system addysg yng Nghymru.
Manylion y Rôl
Mae hwn yn gyfle unigryw i sicrhau bod gwaith yr Academi yn diwallu anghenion pob arweinydd yng Nghymru. Bydd y grŵp cyntaf hwn o Gymdeithion mewn sefyllfa strategol bwysig i ddylanwadu ar waith cychwynnol yr Academi a helpu i sicrhau enw da ymhlith arweinwyr ysgol. Fel y cyfryw, bydd y Cymdeithion yn fodelau rôl ar gyfer arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru.
Bydd y Cymdeithion yn cymryd rhan yn y rhaglen datblygu arweinyddiaeth gyntaf a lunnir ac a berchenogir gan yr Academi. Bydd y rhaglen hon, a gynigir i Gymdeithion yn unig, yn datblygu ac yn atgyfnerthu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn ymgymryd â’r rôl strategol ac arwain system hon. Bydd y grŵp peilot cyntaf hwn yn cymryd rhan yn y rhaglen hon gyda’i gilydd ac yn helpu i’w chydlunio ar gyfer carfannau yn y dyfodol.
Ymrwymiad amser
Un diwrnod yr wythnos am y 12 mis cyntaf. Mae cyfnod ymgysylltu pellach o ddwy flynedd yn debygol, a thrafodir lefelau ymgysylltu a chydnabyddiaeth yn y dyfodol rhwng y Cymdeithion a’r Academi.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd angen i’r Cymdeithion ymrwymo i 10 diwrnod ychwanegol er mwyn mynychu Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth wedi’i theilwra (caiff costau cyflenwi eu darparu ar gyfer penaethiaid sy’n addysgu?)
Sgiliau Cymraeg
Mae bwrdd cysgodol yr Academi yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Darllenwch fanylion llawn y rôl, y meini prawf dethol ac ystyriaethau ategol
Dyddiad cau:
Dylid cyflwyno cais ysgrifenedig, ynghyd â datganiad ategol sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y swydd, erbyn 19 Ionawr 2018
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, anfonwch neges e-bost i’r mewnflwch Datblygu Arweinyddiaeth yn: LeadershipDevelopmentDatblyguArweinyddiaeth@wales.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol, cliciwch yma.