Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Mae gwaith ymchwil rhyngwladol yn dangos bod arweinyddiaeth yn ail yn unig i addysgu yn y dosbarth fel dylanwad ar ddysgu a deilliannau.
Rydym o’r farn bod ein holl ymarferwyr yn arweinyddion, p’un a ydynt yn arwain dysgwyr, ymarferwyr eraill neu ysgolion. Rydym yn ymrwymedig i feithrin cynhwysedd arweinyddiaeth drwy annog a chefnogi pob ymarferydd i ddatblygu ei botensial arweinyddiaeth ei hun a photensial arweinyddiaeth ymarferwyr eraill.
Mae GwE wedi ymrwymo felly i gyflwyno trefn o ddatblygu arweinyddiaeth i bawb – datblygu sy’n gynyddol, yn seiliedig ar ymarfer ac yn parhau gydol gyrfa. Mae hyn wedi’i ymgorffori yn y llwybr datblygu arweinyddiaeth. Mae’r llwybr yn adlewyrchu egwyddorion a strategaethau cenedlaethol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ac yn gwbl gyson â’r Model Dysgu Proffesiynol. Mae’n cael ei danategu gan y Safonau Arweinyddiaeth ac mae’r cymorth a’r cyfleoedd datblygu o fewn y llwybr yn hyblyg i anghenion ac amgylchiadau unigol pob ymarferydd.
Mae GwE, mewn cydweithrediad gyda rhanddeiliaid allweddol eraill, wedi cynllunio a pharatoi Rhaglen Arweinyddiaeth traws sector cynhwysfawr ar gyfer ymarferwyr y Rhanbarth.