Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid:

Paratoi ar gyfer CPCP

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag ystod eang o randdeiliaid, wedi datblygu rhaglen CPCP newydd.
Bydd fersiwn beilot o’r rhaglen newydd hon yn digwydd ar ddechrau tymor y gwanwyn 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau gan arweinwyr ysgol, sy’n barod am brifathrawiaeth, i gymryd rhan yn y rhaglen beilot hon.  Bydd y gwahoddiad hwn yn ymddangos yng nghylchlythyr Dysg ac i’w weld ar lwyfan Hwb o’r 9fed i’r 30ain o Fedi 2024.
Am ragor o fanylion a’r ffurflen gais, cliciwch ar y ddolen Hwb isod.

Y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth – Hwb (gov.wales)

Hysbysiad Pwysig [tymor yr hydref 2023]

Mae’r trefniadau i arweinwyr ysgolion ennill y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) bellach wedi newid, ac ni ellir ei gyflawni bellach trwy gymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid.

Y cyfranogwyr sydd ar y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid ar hyn o bryd, a ddechreuodd y rhaglen ym mis Ionawr 2023, fydd yr olaf i fynd ymlaen i’r asesiad CPCP ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen yn ei fformat presennol.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, yn y broses o ddatblygu trefniadau CPCP newydd, a bydd rhaglen newydd ar waith erbyn tymor yr hydref 2024. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y rhaglen CPCP newydd hon maes o law.

Mae’r newidiadau hyn yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a hynny’n dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Mick Waters ar ei adolygiad o’r trefniadau CPCP presennol. Mae datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.

Bydd cyfranogwyr blaenorol y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid a ohiriodd eu hasesiad CPCP neu nad oeddent wedi bodloni’r gofynion eto, yn cael cyfleoedd ar gyfer asesiad mewn Canolfan Asesu CPCP ym mis Chwefror 2024, ac eto ym mis Mai/Mehefin 2024.

2022-2023

 

CEISIADAU YN AGOR – 20/06/2022

Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffrous ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.

Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol.

Y Gynulleidfa

Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.

Sesiynau Briffio

Cynghorir darpar ymgeiswyr yn gryf i wylio’r fideo o’r sesiwn briffio cyn ymgeisio.

Wedi gwylio’r fideo, i’r rhai sy’n dymuno, cynhelir sesiwn cwestiwn & ateb dros Teams ar gyfer darpar ymgeiswyr a/neu eu pennaeth /rheolwr llinell ar:

15:30 ar 14/09/22 (cyfrwng Cymraeg)

15:30 ar 21/09/22 (cyfrwng Cymraeg)

15:30 ar 20/09/22 (cyfrwng Saesneg)

15:30 ar 28/09/22 (cyfrwng Saesneg)

Er mwyn cofrestru ar gyfer sesiwn a derbyn y ddolen Teams, cwblhewch y ffurflen hon erbyn 12/09/22 os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/r/JVTExwcZQg

Diben

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.

Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:

  • eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
  • eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
  • eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
  • eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol

Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth ymgeisio i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).

 

Dull darparu

Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.

Gallai’r rhaglen gael ei darparu trwy fodel dysgu cyfunol.

 

Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.

RHANBARTH CYDLYNYDD CYSWLLT
CSC Emma Coates
Alison Tovey
Emma.Coates@cscjes.org.uk 
Alison.Tovey@cscjes.org.uk
EAS Adelaide Dunn
Deb Woodward
Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk
Deb.Woodward@sewaleseas.org.uk
Partneriaeth Rob Phillips
Hazel Faulkner
philipsr145@hwbcymru.net
hazel.faulkner@partneriaeth.cymru
GwE Rhys Williams
Ann Grenet
cpcp@gwegogledd.cymru
Partneriaid Addysg
Canolbarth Cymru
Sarah Perdue sarah.perdue@powys.gov.uk

 

 

AMSER GWEITHGAREDD
CYN Y RHAGLEN Mynychu Sesiwn Briffio.
Cwblhau Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA)
Cliciwch yma i gael mynediad at y Safonau mewn fformat Excel i’ch cynorthwyo.
Ffurflen gais

Ffurflen gais i’w chwblhau erbyn 1yp ar 27/10/2022

ASA i’w gwblhau a’i anfon at cpcp@gwegogledd.cymru erbyn 1yp ar 27/10/2022

Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth
  • Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio
  • Rôl y Pennaeth
  • Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru
  • Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir.
  • Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol
  • Tasg Profiad Arweinyddiaeth
Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i)
  • Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?
  • Pa fath o arweinydd ydw i?
  • Timau Effeithiol
  • Adnoddau Dynol
Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii)
  • Dulliau Arwain – Cydweithredol, Gwasgaredig, Trawsnewidiol, Sefyllfaol
  • Rheoli Newid
  • Iechyd a Diogelwch
Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg
  • Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu
  • Sicrhau Ansawdd
  • Defnyddio Data
  • Mesur ac Adrodd ar Effaith
  • Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid
Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol
  • Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
  • Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi
  • Cefnogi twf mewn eraill
  • Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd
  • Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol
  • Diogelu

Ymgeisio (cyn 1yp ar 27/10/2022)

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer.

Ffurflen Gais

Dylai ceisiadau am y rhaglen hon gael eu hardystio gan Bennaeth eich ysgol neu gan eich rheolwr llinell, yn dilyn trafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar gwblhau Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA).

Noder: Cais ar gyfer CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon.

Dylid cwblhau a chyflwyno ceisiadau am y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid – paratoi ar gyfer CPCP erbyn 1yp ar 27/10/2022.

Dylid anfon yr ASA wedi ei gwblhau at cpcp@gwegogledd.cymru erbyn 1yp ar 27/10/2022.

 

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod canlyniad eu cais ar 08/12/2022

 

Mae’r ffurflen gais ar gael yma.

2021-2022

Mae’r Rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffroes ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol ledled Cymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r Rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.
Darperir y Rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’r Rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gyda chyfle ar gyfer achrediad, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Cymru y Drindod Dewi Sant a Bangor.

Y Gynulleidfa

Bydd y Rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.

Sesiynau Briffio

Cynhelir sesiynau briffio trwy Teams ar 13/09/21 am 15:30 (cyfrwng Cymraeg) ac ar 14/09/21 am 15:30 (cyfrwng Saesneg). Cynghorir darpar ymgeiswyr yn gryf i fynychu un o’r sesiynau hyn cyn ymgeisio.

Os na fu’n bosib i chi fynychu sesiwn briffio, dyma recordiad o’r sesiwn cyfrwng Cymraeg a chopi o’r sleidiau.

Diben

Mae’r Rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.

Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:

  • eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
  • eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
  • eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
  • eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol

Bydd y Rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth ymgeisio i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).

RHANBARTH CYDLYNYDD CYSWLLT
CSC Emma Coates
Matthew Robbins
Emma.Coates@cscjes.org.uk 
Matthew.Robbins@cscjes.org.uk
EAS Adelaide Dunn
Deb Woodward
Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk
Deb.Woodward@sewaleseas.org.uk
ERW Rob Phillips cpcp@erw.org.uk
GwE Rhys Williams
Ann Grenet
cpcp@gwegogledd.cymru

 

Dull darparu

Cynhelir y Rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.
Gallai’r Rhaglen gael ei darparu trwy fodel dysgu cyfunol.

Darperir yr holl weithgareddau o fewn y Rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y Rhaglen.

AMSER GWEITHGAREDD
Cyn y Rhaglen Mynychu Sesiwn Briffio.
13/09/21 am 15:30 (Cyfrwng Cymraeg)
14/09/21 am 15:30 (Cyfrwng Saesneg)Cwblhau Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA)
Cliciwch yma i gael mynediad at y Safonau mewn fformat Excel i’ch cynorthwyo.
Ffurflen gais

Ffurflen gais i’w chwblhau erbyn 1yp ar 22/10/2021

ASA i’w gwblhau a’i anfon at cpcp@gwegogledd.cymru erbyn 1yp ar 22/10/21

Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth
  • Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio
  • Rôl y Pennaeth
  • Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru
  • Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir.
  • Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol
  • Tasg Profiad Arweinyddiaeth
Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i)
  • Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?
  • Pa fath o arweinydd ydw i?
  • Timau Effeithiol
  • Adnoddau Dynol
Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii)
  • Dulliau Arwain – Cydweithredol, Gwasgaredig, Trawsnewidiol, Sefyllfaol
  • Rheoli Newid
  • Iechyd a Diogelwch
Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg
  • Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu
  • Sicrhau Ansawdd
  • Defnyddio Data
  • Mesur ac Adrodd ar Effaith
  • Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid
Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol
  • Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
  • Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi
  • Cefnogi twf mewn eraill
  • Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd
  • Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol
  • Diogelu

Ymgeisio (erbyn 1yp ar 22/10/2021)

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer.

Ffurflen Gais

Dylai ceisiadau am y Rhaglen hon gael eu hardystio gan Bennaeth eich ysgol neu gan eich rheolwr llinell, yn dilyn trafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar gwblhau Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA). Cynghorir darpar ymgeiswyr yn gryf i fynychu sesiwn briffio cyn ymgeisio.

Noder: Cais ar gyfer asesiad tuag at y Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yw’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen hon.

Hysbysir ymgeiswyr o ganlyniad eu cais i ddilyn y Rhaglen erbyn Dydd Iau 02/12/2021.

 

Dylid cwblhau a chyflwyno ceisiadau am y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid – paratoi ar gyfer CPCP erbyn 1yp ar 22/10/2021.

Dylid anfon yr ASA wedi ei gwblhau at cpcp@gwegogledd.cymru erbyn 1yp ar 22/10/2021.

2020-2021

Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffroes ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.

Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gyda chyfle ar gyfer achrediad, mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Bangor.

 

Y Gynulleidfa

Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.

 

Diben

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.

Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:

  • eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
  • eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
  • eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
  • eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol

Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth ymgeisio i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).

 

Rhanbarth

Cydlynydd

Cyswllt

CSC Emma Coates
Matthew Robbins
Emma.coates@cscjes.org.uk
matthew.robbins@cscjes.org.uk
EAS Adelaide Dunn
Deb Woodward
Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk
deb.woodward@sewaleseas.org.uk
ERW Tom Fanning
Hazel Faulkner
tom.fanning@erw.org.uk
hazel.faulkner@erw.org.uk
GwE Rhys Williams
Ann Grenet
cpcp@gwegogledd.cymru

 

Dull darparu

Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.

Gallai’r rhaglen gael ei darparu trwy fodel dysgu cyfunol.

Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.

 

Amser

Gweithgaredd

   
Cyn y Rhaglen Hunan-adolygiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth (ISSR)
Ffurflen gais  
Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth

·         Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio

·         Rôl y Pennaeth

·         Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru

·         Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir.

·         Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol

·         Tasg Profiad Arweinyddiaeth

Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i)

·         Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?

·         Pa fath o arweinydd ydw i?

·         Timau Effeithiol

·         Adnoddau Dynol

Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii)

·         Dulliau Arwain – Cydweithredol, Gwasgaredig, Trawsnewidiol, Sefyllfaol

·         Rheoli Newid

·         Iechyd a Diogelwch

Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg

·         Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu

·         Sicrhau Ansawdd

·         Defnyddio Data

·         Mesur ac Adrodd ar Effaith

·         Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid

Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol

·         Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

·         Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi

·         Cefnogi twf mewn eraill

·         Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd

·         Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol

·         Diogelu

 

Ymgeisio (Cyn 03/11/2020)

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer.

Er mwyn ceisio am y rhaglen hon mae angen i ymgeiswyr fod wedi cwblhau a chofnodi Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA) Rhaid i ardystiad Pennaeth neu reolwr llinell fod yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr ASA wedi’i chwblhau. Bydd angen yr ASA  ar gyfer gweithdrefnau cymeradwyo rhanbarthol.

Sylwch: Cais am CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig i gyfranogwyr y rhaglen hon.

 

Sesiwn Wybodaeth (ctrl + click)

Ffurflen Gais

Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA) (ctrl + click)

 

 

Dylid cwblhau a chyflwyno ceisiadau am y Rhaglen i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – paratoi ar gyfer CPCP erbyn 1yp ar 03/11/20.

2019-2020

PECYN CAIS:

FFURFLEN GAIS AR-LEIN

DYDDIAD CAU: 1 O’R GLOCH AR DDYDD GWENER, 17 IONAWR 2020 [ESTYNNWYD I 1 O’R GLOCH AR 24 IONAWR 2020]

ADOLYGIAD SAFONAU ARWEINYDDIAETH [ASA]

NODER FOD YR ASA I’W GYFLWYNO ERBYN 1 O’R GLOCH AR 17/01/2020 [ESTYNNWYD I 1 O’R GLOCH AR 24 IONAWR 2020] TRWY E-BOST I cpcp@gwegogledd.cymru 

 

Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffroes ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.

Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gyda chyfle ar gyfer achrediad, mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Bangor.

 

Y GYNULLEIDFA

Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.

 

DIBEN

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.

Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:

  • eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
  • eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
  • eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
  • eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol

Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth wneud cais i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).

 

RHANBARTH CYDLYNYDD CYSWLLT
CSC Emma Coates
Matthew Robbins
Emma.coates@cscjes.org.uk
matthew.robbins@cscjes.org.uk
EAS Peter Jenkins
Deb Woodward
peter.jenkins@sewaleseas.org.uk
deb.woodward@sewaleseas.org.uk
ERW Tom Fanning
Hazel Faulkner
tom.fanning@erw.org.uk
hazel.faulkner@erw.org.uk
GwE Rhys Williams
Ann Grenet
edwardrhyswilliams@gwegogledd.cymru
cpcp@gwegogledd.cymru

 

 

DULL DARPARU

Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.

Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.

 

AMSERLEN GWEITHGAREDD
Cyn y Rhaglen Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth [ASA]
Ffurflen gais
Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth
  • Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio
  • Rôl y Pennaeth
  • Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru
  • Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir
  • Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol
  • Tasg Profiad Arweinyddiaeth
Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth [i]
  • Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?
  • Pa fath o arweinydd ydw i?
  • Timau Effeithiol
  • Adnoddau Dynol
Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth [ii]
  • Arddulliau Arweinyddiaeth – Cydweithredol, Gwasgaredig, Gweddnewidiol, Sefyllfaol
  • Rheoli Newid
  • Iechyd a Diogelwch
Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg
  • Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu
  • Sicrhau Ansawdd
  • Defnyddio Data
  • Mesur ac Adrodd ar Effaith
  • Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid
Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol
  • Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
  • Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi
  • Cefnogi twf mewn eraill
  • Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd
  • Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol
  • Diogelu

 

 

YMGEISIO

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig iddynt.

Ffurflen Gais

Dylai ceisiadau am y rhaglen hon gael eu hardystio gan Bennaeth eich ysgol neu gan eich rheolwr llinell, yn dilyn trafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar gwblhau Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA).

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais yw 1yp ar 17/01/20 [ESTYNNWYD I 1 O’R GLOCH AR 24 IONAWR 2020].

Noder: Cais ar gyfer CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon.

 

SESIYNAU GWYBODAETH

Cynhaliwyd y sesiynau gwybodaeth i gyd bellach.

CLICIWCH YMA AM GOPI O’R CYFLWYNIAD.