*** MAE’R RHAGLEN HON AR SAIB AR HYN O BRYD ***    *** MAE’R RHAGLEN HON AR SAIB AR HYN O BRYD ***    *** MAE’R RHAGLEN HON AR SAIB AR HYN O BRYD ***  

Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol Cenedlaethol

Mae’r rhaglen hon yn gyfle dysgu proffesiynol newydd i benaethiaid profiadol a grëwyd er mwyn galluogi penaethiaid i fyfyrio ar eu perfformiad presennol a phenderfynu ar eu camau nesaf o ran sicrhau arweiniad effeithiol.

Bydd y rhaglen yn darparu her a chefnogaeth a fydd wedi’u teilwra’n bersonol i bob un sy’n cymryd rhan; amser i drafod syniadau, damcaniaethau ac offer arweinyddiaeth; a’r cyfle i elwa ac i helpu eraill i lenwi’r rôl yn llwyddiannus.

Cymeradwyir y rhaglen genedlaethol hon, sy’n cael ei chydlynu gan gonsortia rhanbarthol, gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Dyma’r manylion cyswllt allweddol ar gyfer cyflwyno’r rhaglen hon yn eich rhanbarth chi:

RHANBARTH CYDLYNYDD CYSWLLT

CCD

Sue Prosser

susan.prosser@cscjes.org.uk

EAS

Rachel Cowell

rachel.cowell@sewaleseas.org.uk

GwE

Bryn Jones
Ann Grenet
Ceri Kenrick

RhDPP@gwegogledd.cymru

Partneriaeth

Rob Phillips

phillipsr145@hwbcymru.net

MWP

Sarah Perdue
Dafydd Davies

sarah.perdue@powys.gov.uk 
daviesd933@hwbcymru.net

CYNULLEIDFA

Mae’r rhaglen hon ar gyfer penaethiaid profiadol sy’n dymuno datblygu eu harfer presennol ymhellach.

DIBEN

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod effeithiol drwy hunan-werthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach.

Bydd cyfranogwyr yn:

  • Myfyrio ar eu harddull arwain eu hunain a sut mae eu harweinyddiaeth yn effeithio ar eraill
  • Myfyrio ar ystod o arddulliau arwain
  • Deall damcaniaeth newid a sut mae hyn yn effeithio ar eu harweinyddiaeth ar y daith ddiwygio drawsnewidiol
  • Cydweithio ag eraill i arwain eu hysgolion yn effeithiol ac i effeithio’n gadarnhaol ar arweinyddiaeth ledled Cymru
  • Ymgorffori diwylliant ac arfer o arloesi priodol ar draws a thu hwnt i’w hysgol

DULL CYFLWYNO

Bydd dau cwrs preswyl dau ddiwrnod o hyd yn ystod tymor yr Haf

  • 10 – 11 Mai
  • 12- 13 Mehefin

 

Bydd y rhain yn digwydd yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod.

Cyn mynychu’r cyrsiau preswyl bydd disgwyl i gynrychiolwyr lenwi holiadur gwerthuso 360 gradd y bydd angen i chi ac o leiaf 5 o gydweithwyr ei gwblhau hefyd. Bydd angen cwblhau hyn ym mis Mawrth a byddwn yn trafod hyn ym mis Ebrill.

Hwylusir y cyrsiau preswyl gan hyfforddiant Eliesha.

NID oes cost ynghlwm â’r rhaglen hon.

CAIS

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar y garfan hon.

Os hoffech drafod ymhellach cysylltwch â’ch cydlynydd rhanbarthol.