Rhaglen Beilot Ymgysylltiad Cymheiriaid
Ar 22 Ionawr 2019 yn Venue Cymru, Llandudno, gweithredwyd camau cyntaf proses ymgynghori â Phenaethiaid ar agweddau amrywiol ar y Daith Ddiwygio Genedlaethol.
Roedd hyn yn cynnwys ymgynghori ar ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer cymorth ac ymgysylltiad cymheiriaid.
Mae GwE a’r chwe awdurdod lleol rhanbarthol am weithio gydag ysgolion i sefydlu model rhanbarthol ar gyfer ymgysylltiad cymheiriaid, sy’n llawn adlewyrchu’r egwyddorion a’r gwerthoedd a nodwyd gan Benaethiaid.
Gwahoddwn ddatganiad o ddiddordeb gan grwpiau o ysgolion i gymryd rhan mewn rhaglen beilot ymgysylltiad cymheiriaid (gweler y papur sydd ynghlwm isod am ragor o wybodaeth).
Cwblhewch y Templed Datganiad o Ddiddordeb a’i ddychwelyd i to Anwen Gwilym (anwengwilym@gwegogledd.cymru) erbyn Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2019.
Cysylltwch â’r canlynol os am ragor o wybodaeth: | ||
Alwyn Jones | alwynjones@gwegogledd.cymru | 07557 759451 |
Marc Berw Hughes | marcberwhughes@gwegogledd.cymru | 07969 324329 |
Elfyn Vaughan Jones | elfynjones@gwegogledd.cymru | 07557 759240 |