A yw eich ysgol gynradd eisiau gwellhau ymddygiad disgyblion a’ch perthynas gyda rhieni?
Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ddadansoddiad peilot bach o raglen ar-lein i gymorthyddion dosbarth 1:1 a rhieni? Os felly, rydym yn eich gwahodd i ymuno a phrosiect cyffroes… |
Os oes gennych ddiddordeb ymuno a’r astudiaeth hon, gyrrwch ebost i margiad.williams@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383627
Beth yw rhaglen ar-lein SKILLS a sut y bydd o fudd i’m hysgol? | Mae’r rhaglen ar-lein SKILLS (Support for Kids in Learning and Language Strategies) yn cynnwys chwe sesiwn (pump gyda chynnwys ac un sesiwn adolygu).
Y pum pwnc yw:
Yn yr astudiaeth hon nôd y rhaglen yw gwellhau lefel sgiliau cymhorthyddion dosbarth a rhieni drwy ddarparu strategaethau newid ymddygiad iddynt a all efallai wellhau canlyniadau plant gydag anghenion dysgu ychwanegol a/neu heriau ymddygiadol. Caiff y sesiynau eu cynnal yn wythnosol. Mae esiamplau fideo o strategaethau positif a chwisiau ar ddiwedd pob sesiwn wedi’u cynnwys i atgyfnerthu dysgu. Yna caiff aseiniadau eu gosod am yr wythnos. Gall SKILLS fod o fudd i’ch ysgol yn y ffyrdd yma:
|
Sut ydym yn gwybod bod SKILLS yn effeithiol? | Mae SKILLS wedi’i seilio ar y ‘Llawlyfr Bach Rhieni’ sy’n disgrifio strategaethau allweddol ag offerynnau i hyrwyddo perthnasau rhieni-plant positif. Mae’r llyfr wedi’i seilio ar werth 30 mlynedd o waith gyda rheuluoedd plant gyda phroblemau ymddygiad. Yn ddiweddar, cafodd y llyfr ei addasu i raglen rhiantu ar y we i rieni plant 3-8 mlwydd oed (Owen, 2018) ac roedd yn effeithiol yn cynyddu ymddygiadau positif rhieni a lleihau ymddygiadau heriol.
Datblygwyd addasiad pellach yn ddiweddar ar gyfer cymorthydddion dosbarth gyda chynnwys ychwanegol ar gyfer lleoliad dosbarth (Jones, 2018). Dangosodd y canlyniadau cynnydd arwyddocaol mewn cymhwysedd staff a strategaethau i annog iaith. Owen, D. A. (2018). Evaluation of the COPING parent online universal programme (PhD Thesis). Bangor University, UK. Jones, A. R. (2018). An evaluation of the SKILLS online programme for school support staff (Master’s Thesis). Bangor University, UK. |
Pa ddisgyblion/staff wnaiff gael budd o SKILLS? | Mae SKILLS wedi’i ddatblygu ar gyfer cymorthyddion dosbarth sy’n treulio o leiaf rhywfaint o’u hamser yn cefnogi plentyn 3-7 mlwydd oed ar sail 1:1. Efallai bod y plant yma angen cymorth ychwanegol oherwydd heriau ymddygiad neu anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y rhaglen hefyd yn cael ei gynnig i riant yr un plentyn mae’r cymhorthydd dosbarth yn ei gefnogi. |
Beth fydd angen i ysgolion gyfrannu? | Er mwyn i’r prosiect redeg yn effeithiol, mae cyfraniadau pwysig i bob ysgol sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth. Bydd angen i bob ysgol:
|
Beth y’wr gost i bob ysgol? | Bydd DIM cost i’ch ysgol am gymryd rhan yn y prosiect hwn. |
Sut y byddem yn mesur effaith? | Bydd gofyn i gymorthyddion dosbarth a rhieni gwblhau ychydig o holiaduron sy’n archwilio ymddygiad, cymhwysedd, a straeth. Bydd hefyd arsylwad 20-munud o’r cymhorthydd dosbarth gyda’r plentyn yn yr ysgol a’r rhiant gyda’r plentyn yn y cartref. Bydd yr arsylwad yn cynnwys sesiwn 10-munud o chwarae a 10-munud yn rhannu llyfr gyda’r plentyn. Caiff ei recordio ar fideo ar gyfer dadansoddiad yn ddiweddarach. |
Beth sy’n digwydd nesaf? | Os oes gennych ddiddordeb ymuno a’r astudiaeth neu eisiau mwy o wybodaeth, gyrrwch e-bost i margiad.williams@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383627. |
Tîm y Prosiect
Enw | Swyddogaeth | Sefydliad | Manylion Cyswllt |
Yr Athro Judy Hutchings | Cyfarwyddwr | Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sails Tystiolaeth (CYCST), Prifysgol Bangor | j.hutchings@bangor.ac.uk Swyddfa: 01248 383625 |
Dr Margiad Williams | Swyddog Ymchwil | CYCST, Prifysgol Bangor | margiad.williams@bangor.ac.uk Swyddfa: 01248 383627 |
Julia Thomson | Myfyriwr gradd Meistr | CYCST, Prifysgol Bangor | jlt18pgj@bangor.ac.uk Swyddfa: 01248 382193 |