Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig – 2018
- Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig - 2018
- Y Fenter Dreftadaeth
- Cystadleuaeth
- Y Gwobrau, y Grantiau a'r Nawdd
Mae Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn gystadleuaeth flynyddol genedlaethol a’r bwriad yw annog pobl ifanc ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru a cholegau i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu treftadaeth a chyfraniad eu teuluoedd a’u cymunedau iddi ac i gynorthwyo i’w diogelu. Gobeithiwn ddatblygu addysg pobl ifanc yng Nghymru drwy astudiaeth o’i hanes hi a’i diwylliant.
Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC – Prif Weinidog
Llywodraeth Cymru
“Mae’n bwysig ein bod ni oll yn gwerthfawrogi a pharchu hanes a diwylliant cyfoethog Cymru. Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn chwarae rhan bwysig mewn annog pobl ifanc ledled Cymru i weithio gyda’u teuluoedd a’r gymuned leol i archwilio’r gorffennol a dysgu ganddo.”
Y Fenter Dreftadaeth
Annwyl bennaeth,
Hoffem wahodd eich ysgol i gymryd rhan yn y fenter yn 2018 (unrhyw waith a gyflawnir rhwng Ebrill 2017 ac Ebrill 2018) , drwy gyflwyno prosiect treftadaeth i’r gystadleuaeth yng Nghymru.
Y mae dewis eang ac amrywiol i ysgolion wrth benderfynu ar brosiect. Sut bynnag, byddem yn croesawu rhagor o brosiectau yn ymwneud â threftadaeth gwyddoniaeth, technoleg, diwydiant, cyllid, masnach a chwaraeon a rôl menywod mewn hanes.
Mae dwy wobr arbennig am brosiectau digidol eithriadol dda; un cynradd ac un uwchradd. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac rydym yn gobeithio gweld eich ysgol yn cael ei chynrychioli yn y Seremoni Wobrwyo ym mis Gorffennaf 2018.
Alun Morgan, Cadeirydd. MYDG
Canllawiau’r Gystadleuaeth
Gweler y wefan: www.whsi.org.uk
Amserlen 2018
- Cofrestru ceisiadau erbyn Dydd Gwener, 2 Chwefror 2018
- Prosiectau i’w cloriannu rhwng 16 Ebrill a 4 Mai.
- Cyflwyno gwobrau / dyfarniadau ar ddydd Gwener, 6 Gorffennaf 2018 ym Mhrifysgol De Cymru (Campws Trefforest).
Gwobrau 2018
- Rhoddir llu o wobrau gan noddwyr i’r ymgeiswyr gorau yn y Cyfnod Sylfaen, Cynradd, Ysgolion Uwchradd gan gynnwys Colegau Chweched Dosbarth ac Ysgolion Arbennig.
- Cyflwynir Tariannau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (rhoddedig gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan) i’r cystadleuwyr gorau o blith ysgolion cynradd ac uwchradd ac ysgolion arbennig.
- Gwobr Eustory: Ymweliad ag ysgol haf hanes yn Ewrop.
Y mae’r gystadleuaeth yn un hawdd rhoi cynnig arni ac y mae llawer o enghreifftiau o’r mwynhad a’r cyfoeth profiadau y mae wedi’u rhoi i bobl ifanc a’u hathrawon.
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth a wnewch chi ddychwelyd y ffurflen isod os gwelwch yn dda erbyn 2 Chwefror, 2018 at:
Alison Denton
Tŷ Gwyn, The Bryn
Y Fenni,
NP7 9AL
Am ragor o wybodaeth ac / neu os am gofrestru ar-lein ymwelwch â gwefan yr WHSI.
Roedd y Gwobrau, y Grantiau a’r Nawdd yn ymestyn o £100 9 £15,000 yn y flwyddyn 2017
Mae Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn elusen gofrestredig annibynnol (Rhif 1048155).
Yr Ymddiriedolwyr yw:
Catrin Stevens, Stuart Broomfield ac Alun Morgan
Mae Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn aelod o EUSTORY, rhwydwaith o wledydd yn Ewrop sy’n trefnu cystadlaethau treftadaeth/hanes.
Mae Eustory yn cynnig gwobrau i bobl ifanc Blwyddyn 13 (Chweched Uchaf) sydd wedi bod yn rhan o Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.