Hyfforddiant Cymell i Fentoriaid Sefydlu ANG [MS]
CYFLE YM MAES CYMELL I FENTORIAID SEFYDLU ANG [MS]
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i fentoriaid sefydlu gymryd rhan mewn hyfforddiant cymell i’w cynorthwyo gyda’u rôl o gefnogi athrawon newydd gymhwyso.
Gwahoddir mentoriaid sefydlu profiadol gyda chyfrifoldebau arweinyddiaeth ysgol i ymgeisio am le wedi ei gyllido ar y Rhaglen Genedlaethol Cymell ar gyfer Mentoriaid Sefydlu (MS). Mae hwn yn rhan o Gam 2 o gyflwyniad y Rhaglen Genedlaethol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
- Mae hon yn Rhaglen un ai 3 diwrnod llawn, 6 hanner diwrnod neu 10 x sesiwn 1.5 awr, a redir gan hwylusydd cymell a benodwyd gan Lywodraeth Cymru
- Byddwch mewn carfan gyda MS / GA eraill o Gymru gyfan, gyda chyfle i gael eich cymell a’ch goruchwylio gan gymhellwyr oddi mewn i’r sefydliad hyfforddi
- Cewch gyfle i ymgymryd â’r ILM Lefel 3 achrededig mewn cymell a mentora
- Cewch gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau cymell
- Fe’ch gwahoddir i gyd-adeiladu rhaglen a gyflwynir fesul cam, gan ddod yn hwylusydd eich hun ar grwpiau o MS yn eich rhanbarth
Bydd y Rhaglen Genedlaethol Cymell ar gyfer Mentoriaid Sefydlu yn rhedeg drwy dymhorau’r hydref a’r gwanwyn 2021-22.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Rhaglen.
I wneud cais am le ar y Rhaglen, cwblhewch y ffurflen hon.