Gwybodaeth Grantiau Llywodraeth Cymru [2020-2021]
Grant Gwella Addysg
Grant Gwella Addysg 2020-2021
Yn ôl y canllawiau, mae’n rhaid i’r Grant Gwella Addysg fod wedi’i ddirprwyo o leiaf 80% i ysgolion.
Yn dilyn penderfyniad y chwe awdurdod lleol, mae’r ffigyrau ar gyfer rhanbarth GwE bellach yn derfynol ac mae’n bleser gennyf ddweud wrthych y bydd ysgolion yn cael o leiaf 90.03% o’r GGA.
Byddwch eisoes wedi cael cadarnhad o’r swm a gaiff eich ysgol gan dîm cyllid eich awdurdod lleol (trosglwyddir hwn yn uniongyrchol i gyllideb eich ysgol).
Ar ben hyn, mae 5.29% o’r gyllideb wedi’i hymrwymo i ddarpariaeth uniongyrchol mewn ysgolion targed (e.e. cydlynwyr iaith) ac yn cael ei rheoli gan yr awdurdodau lleol. Mae 0.72% arall wedi’i dyrannu i awdurdodau lleol er mwyn darparu gweithgareddau targed yn lleol a dyrennir 3.27% arall i gefnogi Sefydlu Statudol ANG, ynghyd â chyllid ar gyfer blaenoriaethau rhanbarthol i dargedu cynhaliaeth mewn Llythrennedd a Rhifedd a chydlynu’r Cyfnod Sylfaen yn rhanbarthol – darperir y cyfan gan GwE. Mae hynny’n gadael 0.69% yn weddill i GwE a’r Awdurdodau weinyddu’r Grant.
Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru i’r consortia rhanbarthol a’r Awdurdodau Lleol yn nodi’n glir nad oes angen cynlluniau gwariant grant ar lefel ysgol unigol ac y bydd “Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant y Consortia yn cynnig cefnogaeth a her i ysgolion er mwyn sicrhau bod eu cynlluniau datblygu ysgol yn adlewyrchiad priodol o’u taith tuag at welliant a’u deilliannau disgwyliedig yn unol â thelerau ac amodau’r grant a chynlluniau busnes y consortia”. Mae disgwyliad pendant i ysgolion “ddarparu dadansoddiad o’u Grant Gwella Addysg ar gyfer dyraniad ysgolion yn eu cynllun datblygu ysgol”.
Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r disgwyliad hwn, rydym wedi llunio’r tabl atodol sydd yn rhestru holl “ddibenion y grant” ac, felly, categorïau’r gwariant sy’n gymwys.
Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r gofyniad hwn, crëwyd adran i’w chwblhau yn y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau.
Ar gyfer pob arian grant, ar wahân i’r Cyfnod Sylfaen, mae gennych yr hyblygrwydd i’w ddyrannu yn unol â’r angen rydych chi wedi’i adnabod drwy eich hunan arfarniad, ac er mwyn symud ymlaen ag unrhyw weithgareddau a nodir yn eich Cynllun Datblygu Ysgol.
Gofynnir i ysgolion lwytho eu cynllun datblygu ysgol ar G6 a chwblhau’r adran berthnasol ar y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau.
Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin wedi’i llunio sydd ar gael ar y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau a G6.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y GGA, cysylltwch â’r canlynol yn y lle cyntaf:
- Am unrhyw ymholiadau am ddyrannu cyllid a sut y dylech gael gafael arno, cysylltwch â’r tîm cyllid yn eich awdurdod lleol;
- Am unrhyw ymholiadau am weithgareddau gwario cymwys, monitro a gwerthuso pa mor effeithiol yw gweithgareddau a ariennir gan y GGA, o ran gwella deilliannau dysgwyr, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant eich ysgol.
Lawrlwythiadau:
Grant Datblygu Disgyblion
GDD 2020-2021
Dylid defnyddio’r GDD i gefnogi anghenion yr holl blant sydd yn neu wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn y ddwy flynedd flaenorol neu blant sy’n derbyn gofal. Bwriedir i’r grant datblygu disgyblion roi cymorth i ddysgwyr sydd o dan anfantais i oresgyn rhwystrau ychwanegol sy’n atal y rheini o gefndiroedd difreintiedig i gyflawni eu potensial llawn.
DOLENNI DEFNYDDIOL:
LLYWODRAETH CYMRU:
Canllawiau a Gwasanaethau: Addysgu Plant Difreintiedig
DOGFENNAU I LAWRLWYTHO:
|
||||
Cyfarwyddyd GDD |
Fframwaith GDD |
Adolygiad GDD a Chwestiynau Monitro |
Rhestr Wirio Arferion Llwyddiannus |
Rhaglen GDD Wythnos Ffocws |
Grant Dysgu Proffesiynol
GDP 2020-2021
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae’r grant dysgu proffesiynol wedi’i ddyrannu i ysgolion drwy GwE Bydd y cyllid yn cael ei ddirprwyo yn gyfan i ysgolion. Mae’r dull o bennu lefel y cyllid wedi’i gyfrifo yn ôl y telerau a’r amodau a nodwyd yn fanwl gan Lywodraeth Cymru, h.y. mae’r dull a ddefnyddir i bennu cyllid ar lefel ysgol yn cael ei gyfrifo ar sail niferoedd yr athrawon cyfwerth â llawn amser ar adeg y cyfrifiad dilys diweddaraf.
Mae eich awdurdod lleol eisoes wedi cadarnhau dyraniadau ysgolion unigol. Bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gyllideb yr ysgol drwy eich awdurdod lleol.
Dyma delerau ac amodau’r grant, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru:
- Y disgwyliad yw y bydd y cyllid yn helpu ysgolion i fodloni gofynion y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) newydd a bod yn fodd i fuddsoddi yn elfennau’r model. Er enghraifft, mae’n fodd i fuddsoddi yn llwybrau dysgu proffesiynol unigol ymarferwyr a buddsoddi mewn cydweithrediad.
- Prif ddiben y cyllid yw creu amser mewn ysgolion i ymarferwyr wneud y newidiadau i arferion sydd eu hangen cyn gwireddu’r cwricwlwm newydd.
- Bydd y cyllid yn targedu’r dysgu sydd ei angen ar athrawon a dysgwyr i’w paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.
- Y disgwyliad ar gyfer y cyllid yw y bydd pob ymarferydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol gan ddefnyddio’r cyllid. Nid yw’n cael ei gadw’n arbennig at ddefnydd athrawon ac arweinwyr a dylid ei ddefnyddio, er enghraifft, i alluogi cymorthyddion dysgu i gael mynediad i ddysgu proffesiynol.
- Nid yw’n cael ei gadw’n arbennig i gefnogi athrawon ac arweinwyr a dylid ei ddefnyddio i gefnogi pob ymarferwr sy’n cefnogi’r addysgu a’r dysgu mewn dosbarthiadau, gan gynnwys cymorthyddion dysgu/cynorthwywyr cymorth dysgu
- Dylid defnyddio’r cyllid i gefnogi ymwneud â’r cynnig dysgu proffesiynol rhanbarthol, neu gynnig proffesiynol, er enghraifft SAU, neu i gefnogi dysgu proffesiynol ar y cyd ar draws ysgolion
Yn unol â hyn, dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio i gefnogi meysydd megis:
- y broses gyffredinol o ryddhau athrawon a chymorthyddion dysgu i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol;
- talu unigolion, gan greu rolau a swyddi, i gefnogi’r gwaith o gydlynu gweithgareddau DP ar draws ysgol neu grŵp o ysgolion. Byddai’r rolau hyn yn cynnwys cefnogi cyd-weithwyr, adrannau neu ddulliau gweithredu ysgol gyfan gydag ymholi beirniadol, rheoli newid a gweithgareddau YSD;
- costau rhyddhau er mwyn i ymarferwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil ac ymholi beirniadol, gan ariannu amser rhyddhau i ymchwilio i oblygiadau’r cwricwlwm newydd ar gyfer eu harfer addysgu ac asesu eu hunain;
- costau rhyddhau i alluogi ymarferwyr i gydweithio yn yr ysgol ac ar draws clystyrau a rhwydweithiau ysgolion – gan gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol ar y cyd a chynllunio ar y cyd;
- cefnogi datblygiad rolau megis Hyfforddwr Dysgu Proffesiynol ysgol (neu lefel clwstwr)
Mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn gwneud y mwyaf o’r cyllid trwy gyfuno eu hadnoddau’n briodol ar draws clystyrau/rhwydweithiau strwythuredig i gynyddu effaith a lefel y cyllid.
Gofynion monitro gan Llywodraeth Cymru
Dylai ysgolion gyhoeddi eu cynlluniau Dysgu Proffesiynol (naill ai ar lefel ysgol neu glwstwr) gan amlinellu sut y maent yn bwriadu cefnogi anghenion dysgu proffesiynol yr holl ymarferwyr yn eu hysgolion, a chyflwyno adroddiad blynyddol ar y cynlluniau hynny (a chyhoeddi adroddiad byr ar eu gwefan).
Dylai Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn y rhanbarthau weithio ochr yn ochr ag ysgolion i ystyried y cynlluniau a chadarnhau bod y cynllun yn diwallu’r anghenion i bob pwrpas.
Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r disgwyliad hwn, datblygwyd adran ar y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau .
Gofynnir i ysgolion uwchlwytho eu cynllun datblygu ysgol ar G6 a chwblhau adran berthnasol y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau
Datblygwyd dogfen yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin, ac mae ar gael ar y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau ac ar G6.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyllid hwn, cysylltwch â’r canlynol yn y lle cyntaf:
- O ran unrhyw ymholiadau am ddyrannu’r cyllid a sut i gael gafael arno, cysylltwch â’r tîm cyllid yn eich awdurdod lleol.
- O ran unrhyw ymholiadau am weithgareddau gwario cymwys, monitro a gwerthuso pa mor effeithiol yw’r gwariant, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant eich ysgol.
Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: Rhaglen Dysgu Carlam
Rhaglen Dysgu Carlam
Disgwylir i’r cyllid helpu ysgolion i fodloni gofynion Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: Rhaglen Dysgu Carlam a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg ar 9 Gorffennaf 2020.
Yn ystod yr argyfwng, daeth i’r amlwg nad yw nifer o ddysgwyr wedi symud ymlaen
gymaint ag y gellid ei ddisgwyl o ran eu cynnydd wrth ddysgu, ac mae rhai dysgwyr wedi’u heffeithio’n fwy difrifol nag eraill. Mae’r cyllid hwn yn galluogi buddsoddiad mewn ysgolion er mwyn caniatáu iddynt recriwtio a defnyddio mwy o bobl i helpu dysgwyr wrth roi sylw i’w hanghenion yn dilyn yr argyfwng COVID-19 cychwynnol a’r cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.
Prif ddiben y cyllid felly yw galluogi buddsoddiad mewn ysgolion i ganiatáu iddynt recriwtio a defnyddio mwy o bobl i helpu dysgwyr wrth roi sylw i’w hanghenion yn dilyn yr argyfwng COVID-19 cychwynnol a’r cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.
Mae pob disgybl yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol wrth ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi, er y bydd cwmpas y cymorth angenrheidiol yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Gan fod adnoddau yn gyfyngedig, byddwn yn blaenoriaethu fel a ganlyn wrth gynllunio dyraniad yr adnoddau:
Carfannau â blaenoriaeth i gael cymorth:
Mae’r cyllid i’w dargedu at garfannau penodol sydd wedi’u nodi fel y rhai mwyaf agored i niwed, fel a ganlyn:
- Disgyblion sy’n paratoi ar gyfer arholiadau yn y flwyddyn academaidd nesaf (sef disgyblion blynyddoedd 11, 12 ac 13).
- Disgyblion agored i niwed a difreintiedig, yn unol â diffiniad amrywiol ddulliau gweithredu.
- Blwyddyn 7, yn sgil yr amharu wrth bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Mae’r carfannau penodol yma yn awgrym o’r hyn y bydd penaethiaid yn ei ystyried wrth ddosbarthu cymorth. Er bod y fformiwla cyllido yn seiliedig ar garfannau penodol o ddysgwyr, disgwylir i’r cyllid gael ei ddefnyddio i sicrhau bod unrhyw ddysgwyr sydd angen cymorth yn cael cyfle i dderbyn y cymorth hwnnw lle bynnag y bo’n bosibl. Felly nid yw wedi’u gadw yn ôl at ddefnydd y tri gr*p â blaenoriaeth a restrir ym mhwyntiau 1-3 yn unig, ac fe ddylid ei ddefnyddio i ganiatáu mynediad at gymorth lle bo angen i blant sydd wedi dioddef effaith amrywiol agweddau o’r pandemig.
Gan y bydd unigolion nad ydynt wedi’u rhestru yn y 3 gr*p â blaenoriaeth hefyd angen cymorth, mae’n egwyddor bwysig caniatáu i Benaethiaid gael ymreolaeth wrth benderfynu pa grwpiau neu unigolion y maent am eu helpu fel rhan o’u cynlluniau ysgol unigol.
Cymorth i’w Ddarparu
Diwygio’r cwricwlwm yw ein prif flaenoriaeth o hyd ar gyfer addysg yng Nghymru. Yn unol â hynny, bydd y Rhaglen hon yn canolbwyntio ar gymorth ar gyfer y canlynol:
- Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol o fewn cwricwlwm eang a chytbwys – ar gyfer y blynyddoedd arholiadau bydd hyn yn cynnwys sgiliau darllen ac ysgrifennu uwch, sgiliau mathemateg lefel uwch lle bo’n berthnasol, a chymhwysedd digidol ar lefel briodol ac fel y bo’n berthnasol i ddysgwyr sy’n symud ymlaen gyda’u cymwysterau.
- Datblygu sgiliau dysgu annibynnol, i alluogi ac ysgogi dysgwyr ym mhob gr*p i symud ymlaen yn gynt drwy weithio’n fwy effeithiol wrth eu hunain ac allan o’r ysgol.
- Cefnogi ac ennyn diddordeb drwy goetsio – mewn cydnabyddiaeth y bydd y dysgwyr sydd wedi ymddieithrio fwyaf angen hyfforddiant a chymorth emosiynol yn ogystal â chymorth ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau a sgiliau.
Beth y dylid defnyddio’r cyllid i’w ddarparu:
Mae’r grant hwn yn rhoi adnoddau ariannol penodol i greu capasiti newydd yn y system addysg.
- Gall ysgolion benodi Athrawon Cymwys gan gynnwys Athrawon Newydd Gymhwyso, Cynorthwywyr Addysgu a rolau cynorthwyol eraill i’r ysgol (er enghraifft rolau sydd wedi’u llunio i ddarparu cymorth coetsio), yn unol â dealltwriaeth yr ysgol o anghenion y dysgwyr.
- Gall y capasiti newydd fod yn llawn amser neu ran amser, neu gynnydd mewn
oriau ar gyfer contract presennol lle mae’r sgiliau hynny yn angenrheidiol. - Gall cydweithwyr newydd weithio ar draws mwy nag un ysgol lle mae clystyrau o ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol.
- Gall penaethiaid benodi athrawon newydd i’r ysgol er mwyn rhyddhau athrawon presennol sy’n adnabod eu disgyblion orau i weithio gyda nhw i gyflymu eu cynnydd (gan lenwi eu swyddi arferol dros dro).
- Bydd angen i sgiliau cydweithwyr newydd adlewyrchu anghenion grwpiau a dysgwyr.
- Bydd y model cyflawni y bydd cydweithwyr newydd yn gweithio oddi mewn iddo yn benodol ar gyfer anghenion yr ysgol a’i dysgwyr.
Nid yw’r cyllid yn gymwys i gael ei ddefnyddio i brynu cyfarpar, gan gynnwys dyfeisiau TGCh, nac unrhyw ffath o ddefnyddiau traul, ac mae ddim ond i gael ei ddefnyddio i sicrhau adnoddau dynol ychwanegol i gefnogi’r rhaglen.
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid yn y ffordd fwyaf effeithlon drwy gronni eu hadnoddau mewn ffordd briodol ar draws clystyrau/rhwydweithiau strwythuredig a/neu bartneriaethau cydweithredol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl.
Gofynion monitro
Bydd darparu swm mor fawr o gyllid ychwanegol yn golygu bod rhaid i ni i gyd sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu defnyddio mewn ffordd dda ac yn cael yr effaith ofynnol. Fodd bynnag, rydym ni i gyd am gyfyngu ar unrhyw fiwrocratiaeth.
Yn unol â’r egwyddorion hyn, mae gofyn i chi:
- Sicrhau bod ysgolion yn nodi’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud gyda’r adnoddau mewn cynllun clir a syml.
- Dylai’r cynllun nodi nifer y disgyblion dan sylw a rhoi amlinelliad o’r cynigion staffio a chwriwclwm.
- Lle bo ysgolion yn gweithio mewn partneriaethau cydweithredol neu glystyrau, bydd cynllun unigol yn dderbyniol.
- Dylai’r cynllun hwn gael ei gymeradwyo gan Gynghorydd Herio’r ysgol yn achos ysgolion sydd wedi’u dynodi ar hyn o bryd fel rhai sydd angen lefelau coch ac oren o gymorth gan eu consortia addysg rhanbarthol.
- Ym mhob achos, dylai cynlluniau gael eu cymeradwyo gan Gorff Llywodraethu yr ysgol, a dylai manylion dull gweithredu yr ysgol fod ar gael i i rieni a’r gymuned ehangach.
Mae’r egwyddorion sylfaenol wrth ddosbarthu a defnyddio’r cyllid hwn fel a ganlyn:
- caiff ei ddirprwyo’n gyfan gwbl i ysgolion a chyllidebau ysgolion;
- mae’r dull gweithredu a ddefnyddir i bennu cyllid ar lefel yr ysgol yn unol â methodoleg dosbarthu Llywodraeth Cymru.
DOLENNI DEFNYDDIOL:
Canllawiau: Recriwtio, Adfer, a Chodi safonau: y Rhaglen dysgu carlam