Y Grant Datblygu Disgyblion 2017-2018
Grant Datblygu Disgyblion – Plant Mewn Gofal.
Diddordeb mewn gwneud cais?
Pwrpas y Grant Datblygu Disgyblion yw cael effaith barhaol ar ganlyniadau addysg i blant sy’n derbyn gofal neu blant sydd wedi derbyn gofal yn ffurfiol. Cyfrifoldeb GwE, fel y Consortia Addysg ar gyfer Gogledd Cymru yw gweinyddu a chydgysylltu’r grant ar draws ysgolion y rhanbarth.
Bydd GwE yn parhau i gydgysylltu’r gwaith drwy weithredu dull tebyg i’r flwyddyn ddiwethaf o ran:
- Cynnig datblygiad proffesiynol ar lefel rhanbarthol – manylion cofrestru G6.
- Cyfle i ysgolion wneud cais am bwrsariaeth dysgwyr unigol – ar y cyd gyda’r awdurdod lleol.
- Cyfle i ysgolion fynychu cyfarfodydd lleol / rhwydweithiau o fewn awdurdodau lleol.
- Ceisiadau Clwstwr/Ysgol i Ysgol – Mae’r canllawiau a’r ffurflen gais isod yn amlinellu y broses Grant Datblygu Disgyblion (GDD) ar gyfer plant sydd yn / wedi derbyn gofal ar draws y rhanbarth. Mae cyfle i chi fel ysgolion wneud cais am ymyraethau / darpariaeth ychwanegol o dan 5 pennawd allweddol. Ni ellir ei ddefnyddio i ariannu darpariaeth statudol. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod yr holl ffurflenni cais yn cael eu rhannu â Chydlynydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal eich awdurdod lleol.
Dyddiad Cau – Gorffennaf 6ed, 12.00yp.
Bydd pob cais yn cael ei drafod mewn panel rhanbarthol cyn diwedd tymor ysgol.
Bydd angen anfon eich cais at sylw Catrin Meirion – catrinmeirion@gwegogledd.cymru
Am sgwrs pellach cysylltwch gyda Sharon Williams – Sharonwilliams@gwegogledd.cymru
Canllaw a Ffurflen Gais:
Canllawiau a Ffurflen Gais – Grant Datblygu Disgyblion – GwE
Ffurflen Gais i’w Lawrlwytho – Grant Datblygu Disgyblion – GwE