Gwyddoniaeth Uwchradd – Datblygu Sgiliau Llythrennedd Gwyddonol [Dwyieithog]
Addas ar gyfer: holl athrawon Gwyddoniaeth.
- Diben y cwrs ydy datblyg athrawon o’r radd flaenaf sy’n gweithio ar y cyd er mwyn codi safonau, drwy gynnig strategaethau effeithiol i gynrychiolwyr ynghyd â syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau Llythrennedd Gwyddonol disgyblion.
Bydd y gweithdy yn datblygu strategaethau gall eu defnyddio i ofalu fod modd i ddisgyblion wneud y canlynol;
- Gwerthfawrogi a deall effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar fywyd o ddydd i ddydd
- Gwneud penderfyniadau personol gwybodus am elfennau sy’n ymwneud â Gwyddoniaeth fel iechyd, diet, defnydd o adnoddau ynni
- darllen a deall pwyntiau hanfodol adroddiadau’r cyfryngau ynghylch materion yn ymwneud â Gwyddoniaeth.
- Dadansoddi graffiau a thablau data
- Myfyrio’n feirniadol ar yr wybodaeth mewn ac (yn aml yn bwysicach) gwybodaeth wedi ei hepgor o adroddiadau o’r fath
- Cyfrannu at drafodaethau gydag eraill am faterion yn ymwneud â Gwyddoniaeth yn hyderus.
Recent Comments