Datblygu creadigrwydd drwy addysg awyr agored [Athrawon – Cymraeg]
Addas ar gyfer: Athrawon Cyfnod Sylfaen
Cynnig gweithdy hanner diwrnod i ymarferwyr Cyfnod Sylfaen rannu syniadau am sut i ddatblygu sgiliau creadigol a sgiliau allweddol disgyblion mewn addysg awyr agored ac yn yr awyr agored.
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Arweiniad a syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau creadigol yn ymwneud â holl feysydd dysgu yn yr awyr agored.
- Annog disgyblion i ddefnyddio’r uwch sgiliau meddwl i fod yn feddylwyr creadigol a beirniadol drwy addysg awyr agored.
- Hyrwyddo lles a datblygiad corfforol drwy weithgareddau awyr agored
- Deall swyddogaeth yr oedolyn gyda hwyluso dysgu effeithiol a mynd ati i wneud arsylwadau pwrpasol yn yr ysgol ac yn yr awyr agored
- Ymarferwyr yn cydweithio ar dasg grŵp/unigol i rannu gyda phawb sy’n bresennol .
Recent Comments