Defnydd Effeithiol o Asesu ar gyfer Dysgu i Leihau Baich Gwaith
Defnydd Effeithiol o Asesu ar gyfer Dysgu i Leihau Baich Gwaith – Cyflwyniad i Ysgolion Cynradd ac Arbennig i Ddeunyddiau Cefnogol sy’n cael eu Rhannu’n Genedlaethol
O ganlyniad i dderbyn yr hyfforddiant yma, bydd y mynychwr yn cael mynediad i rwydwaith genedlaethol ar Hwb – ‘Lleihau Baich Gwaith – Reduced Workload’.
Gwahoddiad i un cynrychiolydd o bob ysgol – Pennaeth, Arweinydd Canol, Arweinydd Asesu neu Arweinydd Addysgu
MANYLION
Sesiwn hanner diwrnod, i’w cynnal yn y prynhawn.
NOD
- Gwella defnydd athrawon o asesu ffurfiannol effeithiol fel ei fod yn cael yr effaith leiaf ar faich gwaith athrawon, ond yn sicrhau yr effaith fwyaf ar gynnydd disgybl.
- Cynnyddu dealltwriaeth o sut y gall dysgu annibynnol leihau baich gwaith athrawon.
- Gwerthuso ymarfer cyfredol o ran rhoi adborth i ddisgyblion gan ystyried effaith hyn ar gynnydd disgyblion a baich gwaith athrawon.
- Teilwra strategaethau ar gyfer adborth effeithiol.
- Deall sut y mae hyn yn bwrpasol i’r ‘Darlun mawr’ o asesu ffurfiannol / pedagogaeth allweddol o ran Cwricwlwm am oes – Cwricwlwm i Gymru