Datblygu Sgiliau Ymresymu Rhifyddol Disgyblion
Datblygu Sgiliau Ymresymu Rhifyddol Disgyblion Meithrin / Derbyn
Datblygu Sgiliau Ymresymu Rhifyddol Disgyblion Meithrin / Derbyn – AR GYFER ATHRAWON
Gweithdy hanner diwrnod i ymarferwyr Cyfnod Sylfaen er mwyn datblygu eu dulliau o ddarparu gweithgareddau rhesymu rhifedd Mathemategol gan ddefnyddio’r ddarpariaeth wedi ei chyfoethogi a pharhaus.
Bydd y gweithdy cyntaf yn canolbwyntio ar:
- Ddefnyddio’r fframwaith diwygiedig fel dogfen gynllunio effeithiol ar gyfer y meysydd darparu.
- Sut i gynnig gweithgareddau rhesymu rhifedd yn yr amgylchedd dysgu y tu fewn a thu allan, gan ganolbwyntio ar addysgeg y Cyfnod Sylfaen.
- Rhannu syniadau ynghylch gweithgareddau rhesymu rhifedd o safon uchel sydd yn cyrraedd deilliant 3 a 4 datblygu mathemateg trwy’r ddarpariaeth wedi ei chyfoethogi a pharhaus.
Bydd sesiwn ddilynol hanner diwrnod lle bydd y rhai sy’n mynychu’n rhannu syniadau ac adnoddau a grëwyd trwy gyswllt gwe.
Datblygu Sgiliau Ymresymu Rhifyddol Disgyblion Meithrin / Derbyn – AR GYFER CYMORTHYDDION DYSGU