Cynhadledd Llwyddiant i Bawb
Creu Diwylliant “Ysgolion sy’n Meithrin” o fewn Sefydliadau
Bydd GwE yn cynnal Cynhadledd i:
- Uwch Reolwyr Ysgolion/UCD
- Athrawon/Staff Dynodedig sy’n gweithio gyda Phlant sydd mewn Gofal/neu sy’n gyfrifol am Les
- Cydlynwyr Plant Mewn Gofal / Penaethiaid Cynhwysiad/ADY Awdurdodau Lleol
- 3ydd Sector ac partneriaid o fewn y maes llesiant plant a phobl ifanc
Pwrpas y gynhadledd yw codi ymwybyddiaeth o’r themâu allweddol sy’n codi yn y maes lles, o ran cefnogi plant sy’n derbyn gofal/dysgwyr bregus, a chysylltiadau â chodi cyflawniad addysgol.
Lleoliad:
Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mawrth, 6 Mawrth 2018.
Amser
09.15am – 16:00pm
Siaradwyr Gwadd
Sir John Timpson, CBE – Prif Weithredwr y busnes Timpson. Mae o, a’i ddiweddar wraig, Alex, wedi maethu dros 90 o blant ac wedi datblygu’r Rhaglen Ymlyniad i Ysgolion ynghyd a’i rôl blaengar o ran cefnogi dysgwyr bregus.
Athro Sally Holland – Comisiynydd Plant Cymru.
Gweithdai:
Bydd dewis o 10 gweithdy o fewn themâu allweddol llesiant plant a phobl ifanc ar gael yn ystod y gynhadledd.
Man Arddangos
Cewch gyfle hefyd i rwydweithio gydag amryfal asiantaethau/darparwyr sy’n cynnig cymorth a darpariaeth yn y maes lles i ysgolion ac awdurdodau lleol – o ran defnyddio’r GDD ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal neu blant PYD.