Select Page
     
    
    
        
    

Cynhadledd Gosod Targedau a Thracio Cynnydd Disgyblion

Venue Cymru, Llandudno, 12 Chwefror 2016

Mae’r Gynhadledd hon ar gyfer Penaethiaid Uwchradd ac aelodau UDA.

Bydd sesiwn gyntaf y Gynhadledd yn sesiwn ar y cyd gyda Chynhadledd Ranbarthol Dyfodol Byd-eang GwE.

Mae gosod targedau effeithiol yn rhan allweddol o godi safonau. Mae’n bwysig hefyd bod gan ysgolion systemau priodol i fonitro cynnydd y disgyblion, a hynny gydag amlder cynyddol wrth iddynt symud trwy CA4. Mae ysgolion yn defnyddio ystod o systemau dadansoddi ar hyn o bryd, ac ystyriaeth bwysig yw nid cymhlethdod y system a ddefnyddir, ond yn hytrach ei heffeithiolrwydd. Dylai hyn gael ei fesur gan effeithiolrwydd y gefnogaeth a’r strategaethau ymyriad sy’n deillio o unrhyw ddadansoddiadau yn hytrach na’r dadansoddiadau eu hunain.

Pwrpas y gynhadledd hon yw trafod ac archwilio’r posibiliadau o ddatblygu ymagwedd gyffredin tuag at osod targedau a thracio cynnydd disgyblion ar draws y Rhanbarth.

Gweler isod fideo byr o’r diwrnod: