Cynhadledd Genedlaethol – Cydweithio Ysgol i Ysgol
Gweler isod rhai cyflwyniadau o’r Gynhadledd gan Ysgolion Arweiniol ledled Cymru:
Ysgol Arweiniol: | Sector: | Ffocws: | Disgrifiad: | Cyflwyniad: | |
Ysgol Merllyn, Sir Fflint | Cynradd | Cryfhau asesu gan ddefnyddio Incerts Reflect | Mae’r grwp o ysgolion yn defnyddio fframwaith i gryfhau asesu. Yn y fframwaith, mae wyth maes effeithiolrwydd, pob un â phedair carreg filltir. Mae’r tri maes cyntaf yn canolbwyntio ar ddilyniant yn ansawdd asesiadau manwl, cywir a dibynadwy. Mae’r meysydd eraill yn canolbwyntio ar wahaniaethu, tracio, gweithio gyda disgyblion a rhieni a chynllunio strategol. Bu’r ysgolion yn cydweithio i gefnogi’r llinyn ‘cynnwys rhieni’ gan ddefnyddio’r cwricwlwm diwygiedig ar gyfer darllen fel canolbwynt. Mae’r gwaith hwn hefyd wedi cryfhau’r barnau yn erbyn cwestiynau 1.1.3, 2.2.2, 3.2 a 3.3 fframwaith arolygu cyffredin Estyn. |
[SAESNEG] |
|
Ysgol Gynradd Northop Hall, Sir Fflint | Cynradd | Datblygu’r ddarpariaeth a safonau mewn mathemateg i ddisgyblion Mwy Abl a Thalentog | Drwy rannu syniadau ac edrych yn ehangach ar y ddarpariaeth i ddisgyblion mwy abl mewn mathemateg o fewn ein grwp ni ac ymhellach, rydym yn ceisio newid agweddau tuag at fathemateg i bob disgybl a gwella’r ‘diwylliant mathemateg’ ar draws ein hysgolion.Mae gweithio gyda rhieni a disgyblion i ddatblygu ‘Meddylfryd Twf’ yn allweddol i greu’r diwylliant mathemateg hwn. |
[SAESNEG] |
|
Ysgol Gynradd Springwood | Ysgol Marlborough, Caerdydd | Cynradd | Gwaith y Grwp Gwella Ysgol i Ysgol | Taith cam wrth gam Grwp Gwella Ysgol, gan ddechrau efo sut ffurfiwyd y grwp, ac yna’r blaenoriaethau ar gyfer gwella, camau gweithredu a’r effaith ar y dysgu a’r addysgu. Golwg ar y rhesymeg tu cefn i waith y Grwp a hyd a lled cyfraniad ysgolion at y fenter, rôl y cynullwr a’r arferion effeithiol a adnabuwyd ac a rannwyd efo grwpiau gwella ysgol. |
[SAESNEG] |
[SAESNEG] |
Ysgol Uwchradd Rhyl, Sir Ddinbych | Uwchradd | Cynllunio gwersi ac arsylwi gwersi | Cydweithiodd cynrychiolwyr o bob ysgol i ymchwilio i’r arferion gorau o ran cynllunio gwersi, eu casglu a’u rhannu. Rhoddwyd hyfforddiant ar arsylwi gwersi i’r timau arwain cyn iddynt fynd ati i safoni eu hunain yn erbyn ei gilydd i sicrhau cywirdeb a thrylwyredd. |
[SAESNEG] |
|
Ysgol Glan y Môr, Gwynedd | Uwchradd | Defnydd effeithiol o iPad’s i hybu sgiliau llythrennedd a rhifedd | Yn y gweithdy yma, byddwn yn cyflwyno gwybodaeth am y ffordd y gwnaeth 3 ysgol uwchradd gynllunio i gydweithio ar brosiect yn ymwneud yn benodol â’r defnydd effeithiol o iPad’s mewn gwersi. Rhennir profiadau a deilliannau’r broses gan rai o’r athrawon a fu’n cydweithio ag ysgolion eraill. |
[Cymraeg] |
|
Ysgol Glancegin, Gwynedd | Cynradd | Gwella capasiti teuluoedd i gefnogi addysg eu plant | Mae’r Llofnod Dysgu Teulu yn broses hynod effeithiol o ymrwymo gyda theuluoedd, ac mae wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan ysgolion a chymunedau ar draws y DU. Mae’n fethodoleg ar gyfer ymgysylltu a gweithio’n glos gyda theuluoedd, casglu a dadansoddi data a dod i farn ar gynhwysedd y teulu i gefnogi dysgu. Mae rhoi’r cyfle i deulu greu a pherchnogi eu Llofnod yn egwyddor sylfaenol o’r broses. Maent yn deall ei gynnwys ac yn gweld beth sydd angen iddynt ei wneud i wella, ynghyd â galluogi ysgolion i ddarparu ymyrraeth gwbl berthnasol i ofynion y teulu. |
[CYMRAEG] |
[SAESNEG] |