Asesu ar gyfer Dysgu: Gweithio’n ddoethach, nid yn galetach
Asesu ar gyfer Dysgu: Gweithio’n ddoethach, nid yn galetach – Gareth Coombes
HYFFORDDIANT AR GYFER HOLL BENAETHIAID NEU ARWEINWYR DYSGU YSGOLION Y RHANBARTH
LLE I UN CYNRYCHIOLYDD O BOB YSGOL
MANYLION
Cwrs hanner diwrnod – yn cael ei gynnal fore a prynhawn y dyddiadau canlynol:
Sesiynau bore: 9:00yb – 12:00yp
Prynhawn: 1:00yp – 4:00yp
- Dydd Llun, 21 Mai 2018 – Tŷ Menai, Bangor
- Dydd Mawrth, 22 Mai 2018 – Canolfan Glasdir, Llanrwst
- Dydd Mercher, 23 Mai 2018 – Canolfan Catrin Finch, Wrecsam
Hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg ond deunyddiau ar gael yn y Gymraeg
CRYNODEB O’R CYNNWYS
- Arweiniad ar sicrhau defnydd effeithiol a chyson o Asesu ar gyfer Dysgu drwy’r ysgol. Canolbwyntio’n bennaf ar adborth a chwestiynu effeithiol a’i effaith ar leihau baich gwaith.
NOD
- Datblygu arferion da a chyson o strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu drwy’r ysgol, yn arbennig adborth a chwestiynu.
- Galluogi ysgolion i ddefnyddio’r strategaethau hyn yn effeithiol i sicrhau cynnydd disgyblion wrth ymateb i’r agenda lleihau baich gwaith cenedlaethol.
- Codi safonau addysgu a lleihau amrywiaeth mewn safonau addysgu mewn ysgolion cynradd ar draws y rhanbarth.