Dewislen
Oeddech chi’n gwybod bod Sefydlu ANGau yng Nghymru yn newid o fis Medi 2024?
Pennaeth
- Mae’r pennaeth yn gyfrifol am benodi mentor sefydlu hyfforddedig (MS), ni waeth a yw’n bwriadu cyflogi athro newydd gymhwyso (ANG) yn y flwyddyn academaidd hon.
- Mae’r pennaeth yn gyfrifol am sicrhau bod pob ANG sy’n gweithio yn yr ysgol yn derbyn cymorth mentora rheolaidd gan fentor sefydlu hyfforddedig.
- Rhaid i’r pennaeth sicrhau bod yr ANGau yn derbyn 10% o amser digyswllt ychwanegol i ymgysylltu â dysgu proffesiynol sefydlu cenedlaethol a rhanbarthol. Mae cyllid i gefnogi hyn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy’r CGA.
Mentor Sefydlu
- Bydd y mentor sefydlu hyfforddedig yn gyfrifol am gefnogi’r ANG gyda dysgu ac addysgu, am nodi a chefnogi blaenoriaethau datblygu a phrosiectau ymholi proffesiynol gyda’r ANG ar y cyd yn ogystal â darparu cymorth mentora.
- Bydd y mentor sefydlu yn gwneud argymhellion i’r corff priodol ar gyfer sefydlu a ddylai’r ANG basio, methu neu gael estyniad ar ddiwedd y cyfnod sefydlu.
- Bydd y mentor sefydlu yn cymryd rhan mewn cymedroli proffiliau sefydlu.
Dilyswyr
- Bydd dilyswyr yn gweithio gyda sampl o fentoriaid i sicrhau ansawdd y broses sefydlu.
- Mae defnyddio dilyswyr yn ôl disgresiwn y corff priodol (CP) a’r swyddog arweiniol rhanbarthol ar gyfer sefydlu.
ANGau
- Ni ddisgwylir bellach i ANGau sy’n dechrau sefydlu ym mis Medi 2024 ysgrifennu 10-20 o PLEs i ddangos cynnydd yn erbyn 32 o disgrifyddion safonau.
- O fis Medi 2024, bydd ANG yn cwblhau 2 brosiect ymholi proffesiynol sy’n dangos cynnydd ar draws y 5 safon broffesiynol ar gyfer addysgu ac arwain yn gyfannol. Yn ogystal â hyn, bydd ANGau a mentoriaid yn ymgymryd â 3 adolygiad ac yn darparu o leiaf 3 arsylwad gwers.