Deall Cysyniadau Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen
Gareth Metcalfe
Datblygiad Proffesiynol ar gyfer holl Athrawon Cyfnod Sylfaen – Deall Cysyniadau Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen, Gareth Metcalfe
Bydd Gareth Metcalfe yn cynnal gweithdai mathemateg yn ystod Tymor Yr Hydref 2017 a Thymor y Gwanwyn 2018. Bydd y gweithdai am ddim i holl athrawon CS.
Cynhelir dros gyfnod o ddwy sesiwn hanner diwrnod, gyda’r un athrawon yn cymryd rhan yn y ddwy sesiwn, fis ar wahân.
(Noder – Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg a cyfyngir y nifer i gychwyn ar gyfer un o bob ysgol)
Amcanion
- Deall y sgiliau synnwyr rhif sydd eu hangen ar blant er mwyn datblygu rhwyddineb mewn mathemateg gynnar.
- Ystyried amrywiaeth o strategaethau i blant ddysgu defnyddio strategaethau heb gyfrif wrth wneud cyfrifiadau cynnar.
- Edrych ar sut y gellir dyfnhau’r dysgu ym meysydd annibynnol darpariaeth y Cyfnod Sylfaen.
Rhan 1
Rhennir tystiolaeth i ddangos pwysigrwydd mathemateg gynnar, a byddwn yn chwarae gemau a fydd yn helpu’r aelodau i ddeall yr anawsterau a gaiff plant wrth ddatblygu rhwyddineb gyda rhif cynnar. Yna, byddwn yn edrych ar y ‘berthynas synnwyr rhif’ sydd ei hangen ar blant er mwyn sicrhau rhwyddineb mewn mathemateg gynnar. Bydd hyn yn golygu defnyddio gwahanol gynrychioliadau gweledol. Aiff athrawon ati i feddwl sut mae darpariaeth y CS yn eu lleoliad nhw yn helpu i hybu synnwyr cryf a hyblyg o rif.
Rhan 2
Cyflwynir gwahanol strategaethau i blant ddysgu cyfrifo, heb gyfrif, er mwyn annog plant i resymu’n fathemategol. Rhennir gwahanol gemau, syniadau ac adnoddau i atgyfnerthu’r sgiliau hyn o fewn y meysydd annibynnol, yn unol â model y Cyfnod Sylfaen. Cyflwynir y dasg gymhwyso hefyd. Tasg gymhwyso: datblygu gweithgareddau synnwyr rhif ac/neu dechnegau cyfrifo heb gyfrif o fewn cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.
Amcanion:
- Edrych ar dechnegau i gynllunio cyfres o wersi sy’n meithrin dealltwriaeth ddofn yn null y Cyfnod Sylfaen.
- Edrych ar sut mae modd defnyddio delweddau ac offer i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol ar draws y cwricwlwm mathemateg.
Rhan 1
Byddwn yn edrych ar ddeilliannau’r dasg gymhwyso, ac yn adrodd yn ôl. Yna, byddwn yn edrych ar y cysyniadau allweddol a’r ‘syniadau mawr’ y mae angen i blant eu deall mewn gwahanol feysydd o’r cwricwlwm mathemateg, a sut y gellir mynd i’r afael â nhw yn ymarferol. Byddwn yn edrych ar sut y gellir mynd i’r afael â’r cysyniadau hyn ymhellach gan ddefnyddio offer a delweddau. Cyflwynir y ‘map cynrychioliadau gweledol’ i helpu ysgolion ddefnyddio offer a delweddau yn gyson drwy gydol y Cyfnod Sylfaen.
Rhan 2
Edrychir ar sut y gellir cyflwyno modelu bar, a’i defnyddio i feithrin dealltwriaeth o gyfrifo a datrys problemau. Rhennir gwahanol gemau a gweithgareddau i ddyfnhau’r dysgu, a rhoi elfen o her ym mhob rhan o ddarpariaeth fathemategol y Cyfnod Sylfaen.
DISGWYLIR I’R ATHRAWON SY’N MYNYCHU YMRWYMO I’R DDWY SESIWN (WEDI NODI’R DYDDIADAU ISOD)
LLEOLIAD | GWEITHDY CYNTAF | AIL WEITHDY | AMSER |
Gwesty Beaufort Park | 23/10/2017 | 31/01/2018 | 8:45yb – 12:00yp |
OpTIC, Llanelwy / Oriel House, Llanelwy | 23/10/2017 – OpTIC | 31/01/2018 – Oriel House | 1:15yp – 4:30yp |
Ramada Plaza, Wrecsam | 24/10/2017 | 02/02/2018 | 8:45yb – 12:00yp |
Glasdir, Llanrwst | 13/11/2017 | 06/02/2018 | 8:45yb – 12:00yp |
Plas Tan y Bwlch / Coed y Brenin | 13/11/2017 – Plas Tan y Bwlch | 06/02/2018 – Coed y Brenin | 1:15yp – 4:30yp |
Tŷ Menai, Bangor | 14/11/2017 | 07/02/2018 | 8:45yb – 12:00yp |
Tŷ Menai, Bangor | 14/11/2017 | 07/02/2018 | 1:15yp – 4:30yp |
Am ragor o wybodaeth am Gareth Metcalfe – www.iseemaths.com
Unrhyw gwestiynau, e-bostiwch – llythrenneddarhifedd@gwegogledd.cymru