Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru
TEITL: |
Yr wybodaeth ddiweddaraf parthed y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion |
DYDDIAD: |
29 Medi 2017 |
GAN: |
Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg |
Mae gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer system atebolrwydd addysg yn un deg, gydlynol, gymesur, dryloyw ac mae’n seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru.
Gan gydweithio â’r proffesiwn addysgu, llywodraeth leol, consortia, undebau ac arbenigwyr rhyngwladol, rydym wedi bod yn cynnal adolygiad sylfaenol o’r system atebolrwydd. Fel y mae ein cynllun gweithredu ‘Addysg yng Nghymru; Cenhadaeth Ein Cenedl’ yn ei nodi, byddwn yn cyhoeddi fframwaith asesu a gwerthuso newydd ar gyfer y system addysg gyfan yn ystod hydref 2018.
Mae ‘Cenhadaeth Ein Cenedl’ hefyd yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd rhwng nawr a’r flwyddyn nesaf. Mae’r dystiolaeth ryngwladol, a’r neges yng Nghymru, yn glir. Mae’n rhaid inni weithredu mewn ffordd gydlynol, sy’n osgoi canlyniadau nad oeddem wedi’u bwriadu ac sy’n cyfrannu at godi safonau ym mhob dosbarth ac ar gyfer pob un o’n dysgwyr. Codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system sy’n ennyn hyder y cyhoedd ac sy’n destun balchder cenedlaethol – dyma sydd wrth wraidd ein cynllun gweithredu.
Roedd sicrhau cydlyniant yn gasgliad allweddol yn asesiad polisi cyflym y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), “The Welsh Education Reform Journey”. Er iddo gydnabod ein cynnydd pwysig tuag at weledigaeth hirdymor ar gyfer addysg yng Nghymru, gwnaeth nifer o argymhellion i’n cefnogi ni ar ein taith tuag at welliant parhaus. Un o argymhellion yr adroddiad oedd y dylem ystyried gwneud hunanwerthusiadau ysgolion yn fwy amlwg yn y System Gategoreiddio Ysgolion, o bosibl drwy gael gwared ar y cyfrifiad ar gyfer data perfformiad ysgol (Cam 1) yn gyfan gwbl.
Yn ‘Cenhadaeth Ein Cenedl’, ymrwymwyd yr hydref hwn i “drefniadau gwerthuso trosiannol ag ysgolion er mwyn cefnogi cydweithredu cadarnach rhwng ysgolion a sicrhau bod safonau’n codi ar gyfer pob dysgwr”.
Fel rhan o’n hadolygiad sylfaenol o’r system atebolrwydd, rwy’n cydnabod bod proses hunanwerthuso gadarn a pharhaus, ynghyd â deialog broffesiynol yn hollbwysig wrth sicrhau gwelliant.
Rwy’n llwyr dderbyn argymhellion yr OECD a byddaf felly, o hyn ymlaen, yn cael gwared â’r arfer o osod ysgolion mewn grŵp safonau ar sail data fel rhan o Gam 1 y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion.
Yn hytrach, mae hunanwerthuso yn elfen gryfach o’r model. Bydd data ysgolion, gan gynnwys y data a oedd yn rhan o Gam 1, yn parhau i gael eu rhannu â’r consortia rhanbarthol ac yn cael eu defnyddio fel man cychwyn trafodaethau o fewn yr ysgol, a chyda’i Chynghorydd Herio, ynghylch ei gallu i wella mewn perthynas ag arweinyddiaeth, addysgu a dysgu.
I sicrhau cysondeb, mae camau wedi eu cymryd i gryfhau Cam 2 y broses, gan sicrhau bod unrhyw ddyfarniadau ynghylch gallu ysgol i wella yn cael eu gwneud mewn ffordd deg, ac yn cael eu cymhwyso’n gyson i holl ysgolion Cymru.
Er mwyn parhau i sicrhau cysondeb wrth gategoreiddio ysgolion, dilynir proses cymedroli Rhanbarthol a Chenedlaethol dau gam. Rhoddir cod lliw i ysgolion yn dynodi lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a bydd hyn yn dal i gael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol. Mae’r amserlenni a’r prosesau ar gyfer y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn parhau’r un fath.
Mae hwn yn gam pellach ymlaen o ran ein nod cenedlaethol i ddiwygio atebolrwydd o fewn ein system addysg a sicrhau bod ysgolion, a dysgwyr yn y pen draw, yn cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn i’w galluogi i gyflawni eu potensial. Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd ichi ynghylch unrhyw ddatblygiadau pellach wrth i’n hadolygiad o atebolrwydd barhau drwy gydol y flwyddyn academaidd newydd hon, gan sicrhau eglurder a chydlyniant o ran y gwerth rydym yn ei roi ar welliant a sut rydym yn ei fesur ar draws y system gyfan.