Datganiad i’r Wasg gan y Rhanbarth – Safon Uwch / UG
Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
17 Awst 2020
Mae’r chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol GwE a Phenaethiaid Uwchradd yn croesawu’n gynnes gyhoeddiad Gweinidog Addysg Cymru y bydd graddau Safon Uwch, UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru bellach yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau wedi’u Hasesu gan Ganolfan. Teimlwn fod hyn er lles pennaf ein pobl ifanc, fu’n pryderu ac yn ansicr ynghylch eu dyfodol.
Edrychwn ymlaen at glywed rhagor am ‘adolygiad annibynnol o’r digwyddiadau yn dilyn canslo’r arholiadau eleni’ a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg, a hyderwn y cawn y cyfle i gynnig adborth yn y broses.
Mae’n caniatáu i ysgolion ganolbwyntio’n awr ar y gwaith hanfodol o baratoi ar gyfer ail-agor yn ddiogel ym mis Medi.