Datblygu Grŵp Rhan-ddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol ar y cyd â Llywodraeth Cymru
YN GALW AR BOB PERSON IFANC SY’N CREDU’N ANGERDDOL MEWN LLESIANT EMOSIYNOL AC IECHYD MEDDWL!
Ydych chi eisiau helpu Llywodraeth Cymru i lunio dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol ac iechyd meddwl? Ydych chi eisiau cyfle i roi barn ar y dull gorau o sicrhau bod y gefnogaeth mewn ysgolion yn wir yn gweithio i blant a phobl ifanc? Os ydych chi, cyflwynwch gais i fod yn rhan o’n Bwrdd Ieuenctid – gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais yma.
Rhagor o fanylion i’w gael yma.