Cynhadledd Haf GwE, i Benaethiaid ac Uwch Arweinwyr Uwchradd
Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2018 – Gwesty’r Kinmel, Abergele – 9:00-16:00
Arwain Dysgu ac Addysgu: Yr Arferion Gorau yn ein Dosbarthiadau
Siaradwyr:
- Arwyn Thomas, Cyfarwyddwr GwE
- Tom Sherrington, Awdur ac Ymgynghorydd @teacherhead
- Mary Myatt, Awdur ac Ymgynghorydd
- Armando Di-Finizio (Pennaeth) ac Innes Robinson (Dirprwy Bennaeth), Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Caerdydd
- Lowri Jones, Estyn
- ASCL
Bydd ein dau siaradwr gwadd yn rhannu’u gwbodaeth a’u harbenigedd o ran arwain y dysgu a’r addysgu, ar sail y gwaith ymchwil, y dystiolaeth a’r profiad ymarferol diweddaraf o weithio gydag ysgolion. Bydd Pennaeth a Dirprwy Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Caerdydd yn cyflwyno taith yr ysgol tuag at drawsffurfio a gwella rhwng 2015 a 2017. Bydd Estyn hefyd yn cyfeirio at yr arferion gorau o ran paratoi at arolygu maes allweddol 3 a 5, ac yn rhannu gwybodaeth â ni ar sail eu hadroddiad thematig ar addysgu yn ddiweddar. Bydd ASCL yn cyflwyno ar faterion cyfreithiol ac astudiaethau achos.
Gobeithio’n wir y gallwch chi, ac aelod o’ch UDA, ymuno â ni. Defnyddiwch y ddolen hon i gofrestru.
Cysylltwch ag Eirian Harris (eirianharris@gwegogledd.cymru) efo unrhyw gwestiwn.