Categoreiddio Cenedlaethol 2017-2018
Cwblhawyd y broses Safoni a Chymedroli Rhanbarthol ym mis Rhagfyr er mwyn sicrhau gweithrediad cyson y drefn gategoreiddio genedlaethol ar draws y pedwar consortiwm rhanbarthol a’u hawdurdodau lleol perthnasol. Cynhaliwyd y Gwirio Cenedlaethol gan y Grŵp Ansawdd a Safoni ar Ionawr 10 a 11eg, 2018. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, mae’r Gwirio Cenedlaethol ar gyfer y broses categoreiddio wedi’i gwblhau am eleni. Mae categori pob ysgol bellach yn derfynol a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Ionawr 2018 ar wefan Fy Ysgol Lleol.