Categoreiddio Cenedlaethol
Bydd y broses Gategoreiddio Cenedlaethol yn parhau ar gyfer 2018-19. Mae’r canllawiau atodol yn rhoi cyngor i ysgolion, consortia ac ymgynghorwyr cefnogi gwelliant ar y ffordd y dylid cymhwyso’r dyfarniad mewn perthynas â’r gallu i wella a’r penderfyniad mewn perthynas â’r categori cymorth mewn achosion lle y gall fod angen ystyried ffactorau cyd-destunol a ffactorau eraill.
Canllaw Categoreiddio 2018-2019
Amserlen Categoreiddio Rhanbarthol (GwE)
- Trafodaethau parhaus gyda’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant parthed barnau ar Gam 2 a Cham 3 o’r broses gategoreiddio
- Ffurflenni F1 i’w cyflwyno erbyn 20.11.18
- Cymedroli Rhanbarthol ar 04.12.18
- Gwirio Cenedlaethol – dechrau Ionawr 2019
- Cyhoeddi’r categoreiddio ar ‘Fy Ysgol Lleol’ erbyn diwedd Ionawr 2019