Adroddiad Estyn cadarnhaol iawn i GwE
Mae GwE yn croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn yn dilyn yr ymweliad arolygu yn ddiweddar.
Darparodd Estyn asesiad o gynnydd ar sail y diffiniadau a ganlyn:
Cynnydd cyfyngedig | Nid yw’n bodloni’r argymhelliad |
Cynnydd boddhaol | Mynd i’r afael â’r argymhelliad yn y mwyafrif o agweddau |
Cryf | Mynd i’r afael â’r argymhelliad yn y rhan fwyaf o agweddau |
Da iawn | Mynd i’r afael â’r argymhelliad ym mhob agwedd |
Mae adroddiad heddiw yn dangos bod Estyn wedi darganfod yn eu hymweliad diweddar bod GwE wedi gwneud cynnydd da iawn yn erbyn pedwar o’r argymhellion, a chynnydd cryf iawn yn erbyn dau:
Argymhelliad | Cynnydd yn erbyn yr argymhelliad |
Sicrhau bod y gwasanaeth gwella ysgolion yn defnyddio data, gosod targedau a gweithdrefnau olrhain yn fwy effeithiol i herio a chefnogi ysgolion er mwyn gwella perfformiad yr holl ddysgwyr ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4 | Cryf |
Gwella ansawdd arfarnu wrth gyflwyno gwasanaethau gwella ysgolion | Da iawn |
Gwella trylwyrdeb y trefniadau ar gyfer nodi a rheoli risg | Da iawn |
Sicrhau bod cynlluniau busnes a chynlluniau gweithredol yn cynnwys meini prawf llwyddo clir a bod cynnydd yn erbyn y rhain yn cael ei fonitro’n effeithiol | Da iawn |
Egluro rôl strategol y rhwydweithiau rhanbarthol a’u hatebolrwydd i’r Cydbwyllgor | Da iawn |
Datblygu fframwaith priodol ar gyfer asesu gwerth am arian; sicrhau bod cynllun ariannol tymor canolig yn cyd-fynd â’r cynllun busnes, a bod costau ffrydiau gwaith wedi’u nodi’n llawn. | Cryf |
Mae adroddiad Estyn yn crynhoi’r hyn a ganlyn:
Ers yr arolwg craidd, mae GwE wedi cynnal adolygiad trylwyr a chynhwysfawr o’i waith a’i effeithiau ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ar draws y rhanbarth. Mae gweithredu cynnar yn dilyn y gwaith hwn wedi sicrhau bod gan rhanddeiliaid ar bob lefel hyder yng ngallu GwE i ddarparu gwasanaeth gwella ysgol effeithiol. Gwnaed newidiadau arwyddocaol i strwythurau rheoli er mwyn dosbarthu arweiniad a sicrhau llinellau clir o atebolrwydd. Mae arweiniad cryf a phendant y rheolwr gyfarwyddwr wedi bod yn ffactor allweddol i hybu’r gwelliannau sylweddol yn ansawdd y gwasanaethau gwella ysgolion ers yr arolwg.
Dywedodd Karen Evans, Cyfarwyddwr Arweiniol GwE:
“Rydym yn hynod o falch o ddeilliannau cadarnhaol adroddiad monitro Estyn, ac wrth ein bodd bod Estyn wedi tynnu sylw at y cynnydd mewn llawer o agweddau ar ein gwaith:
Mae ansawdd gwaith yr ymgynghorwyr cefnogi gwelliant pynciau craidd yn rhagorol.
Adroddiad Estyn cadarnhaol iawn i GwE
Mae GwE wedi sicrhau bod dyraniad mwy cymesur o adnoddau ac amser i gydweithio ag ysgolion uwchradd nag oedd ar adeg yr arolygiad craidd.
Mae GwE wedi cymryd camau cadarnhaol iawn i wella systemau trin a thrafod data o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 4.
Mae GwE, ar y cyd ag awdurdodau lleol a’r ysgolion, wedi tynhau a chysoni’r drefn o osod targedau.
Mae GwE yn rhoi arweinaid pendant i ysgolion ar olrhain deilliannau yn erbyn targedau.
Fel rhan o’r dull diwygiedig o gydweithio ag ysgolion, mae GwE yn llunio rhaglen cymorth bwrpasol i bob Ysgol, waeth beth fo’u hangen.
Mae GwE yn ymateb yn gadarnhaol i geisiadau gan awdurdodau lleol i gynnal adolygiadau mewnol dwys mewn ysgolion unigol.
Mae’r gweithredu buan ac uniongyrchol i wella ansawdd y gwasanaeth rhanbarthol ers adeg yr arolygiad craidd wedi arwain at welliannau sylweddol mewn safonau yn y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnodau allweddol 2 a 3.
“Mae canfyddiadau adroddiad heddiw yn destament i’r partneriaethau cryf a’r rhwydweithiau sy’n bodoli ar draws y rhanbarth. Mae’n fraint gen i weithio ochr yn ochr â gymaint o weithwyr proffesiynol ymrwymedig o fewn GwE a’r sector addysg ehangach yng Ngogledd Cymru.
“Rwan, mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i adeiladu’r momentwm a sicrhau bod ein gweledigaeth a’n hamcanion ar gyfer 2020 yn dod yn realiti.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Cadeirydd Cyd-Bwyllgor GwE:
“Rydym yn hynod o falch bod Estyn wedi cydnabod y gwaith sylweddol a’r cynnydd a wnaed o fewn y consortiwm”
“Pleser yw gweld bod Estyn wedi amlygu ein partneriaeth efo Prifysgol Bangor ar brosiect CIEREI i ddatblygu systemau arfarnu a methodoleg. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth am ein gwaith ar ddatblygu’r iaith Gymraeg”
“Rydym yn talu teyrnged i’r gwaith caled a’r ymroddiad a ddangoswyd gan staff a phartneriaid y consortiwm. Mae gennym ni dîm medrus a gwybodus iawn, a thrwy eu hymrwymiad nhw rydym ni wedi gallu ymdrechu i wella’n barhaus.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o sicrhau’r cynnydd hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i barhau gyda’n gwaith gyda ysgolion y rhanbarth a dysgwyr er mwyn cyflawni ein gweledigaeth a pharhau i wella ein deilliannau i bawb.”
Gellir dod o hyd i gopi llawn o Adroddiad Monitro Estyn ar wefan GwE.
Nodiadau
Mae GwE, Gwasanaeth Gwella Addysg rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, sy’n hollol ddwyieithog, yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam a Môn er mwyn datblygu ysgolion rhagorol ar ledled y rhanbarth.
Mae ein gweledigaeth yn datgan y bydd gan GwE:
Ysgolion rhagorol yn cydweithio’n naturiol, ac yn cyd-adnabod cyfeiriad ar gyfer gwelliant a fydd yn darparu safonau gwych a llesiant i’w disgyblion.
Gellir dod o hyd i gopi llawn o Adroddiad Monitro Estyn ar wefan Estyn am 12.01, 16/11/17
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Susan Owen Jones
Rheolwr Busnes
susanowenjones@GwEGogledd.Cymru
07557 759757 / 0300 500 8087