Adroddiad Diweddar a Gyhoeddwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd [OECD]
Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Datblygu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru, yn asesu i ba raddau y mae ysgolion yng Nghymru wedi datblygu fel sefydliadau sy’n dysgu. Mae’r adroddiad yn ystyried sut y bydd datblygu ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu (YSD) yn gymorth i wireddu Cwricwlwm i Gymru a chefnogi staff ar bob lefel i gyflawni nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o wella ansawdd addysg yng Nghymru. Cyfeirir ym mhennod 3 yr adroddiad at enghreifftiau o arfer dda mewn ysgolion yng ngogledd Cymru, gan gynnwys partneriaeth bwysig GwE gyda’r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI, Prifysgol Cymru). Gellir gweld prif bwyntiau’r adroddiad yma.