Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae GwE yn gweithio ar y cyd â dau ddarparwr arloesol ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon yng ngogledd Cymru, sef Y Brifysgol Agored a phartneriaeth AGA CaBan (Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer).
Y Brifysgol Agored

Y Brifysgol Agored
O fis Medi 2020, bydd y Rhaglen Athrawon Graddedig yn diflannu yng Nghymru. Y gobaith yw y bydd y Brifysgol Agored yng Nghymru, ar y cyd â’r consortia a Llywodraeth Cymru, yn cynnig dau lwybr newydd i yrfa mewn addysgu, sef TAR â chyflog a TAR rhan-amser. Bydd y ddau lwybr yn cynnig cymysgedd o sesiynau ar-lein a wyneb yn wyneb, efo mentoriaid a thiwtoriaid ymarfer. Bydd 120 diwrnod o brofiad ymarferol hefyd, ar draws dwy ysgol.
LLWYBR Â CHYFLOG (LLAWN-AMSER) |
LLWYBR RHAN-AMSER |
Bydd y TAR Rhan-amser a’r TAR â Chyflog ar gael ar draws cyfnodau a phynciau â blaenoriaeth yn yr Hydref, 2020 (y pynciau â blaenoriaeth am y tro fydd Gwyddoniaeth, Mathemateg, D&Th ac ITM). Gall ymgeiswyr wneud cais yma: https://www.open.ac.uk/courses/choose/cymru/tar

Am ragor o wybodaeth, neu i drafod y llwybrau newydd, cysylltwch â Ceri Williams neu PGCE@open.ac.uk

Dyma ble y cewch ragor o wybodaeth am y llwybrau gwahanol hyn er mwyn dod yn athro:
https://llyw.cymru/addysg-gychwynnol-i-athrawon
http://www.open.ac.uk/courses/choose/wales/pgce
Partneriaeth AGA CaBan

Partneriaeth AGA CaBan
Partneriaeth rhwng GwE, Prifysgol Bangor, Y Sefydliad Cydweithredol er Ymchwil i Addysg, Tystiolaeth ac Effaith a’n ysgolion arweiniol a rhwydwaith yw CaBan. Mae rhaglenni’r bartneriaeth wedi’u teilwra i fynd i’r afael â Cwricwlwm i Gymru ac anghenion y byd addysg yng ngogledd Cymru.
Dyma’r cyrsiau a gynigir:
CaBan ym Mangor: TAR Cynradd (3-11 oed) gyda SAC
CaBan Bangor: TAR Cynradd gyda SAC (3–11)
Bwriad y cyrsiau TAR hyn, dros flwyddyn, yw rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o sut y mae plant yn dysgu, yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn athro neu’n athrawes greadigol ac arloesol.
BA (Anrh) mewn Addysg Gynradd gyda SAC (3-11 oed) – Prifysgol Bangor
BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (3–11) – Prifysgol Bangor
Mae’r cwrs gradd tair blynedd hwn, gyda SAC, yn arwain at gymhwyster athro cynradd i addysgu yng Nghymru. Gellir defnyddio’r cymhwyster mewn gwledydd eraill hefyd, gan gynnwys Lloegr.
TAR – Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cynradd 3-11)
TAR – Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cynradd 3-11) | Bangor University
CaBan ym Mangor: TAR Uwchradd gyda SAC
CaBan Bangor: TAR Uwchradd gyda SAC
Cynllunnir y rhaglen TAR Uwchradd i roi dealltwriaeth gadarn i chi o sut y mae plant a phobl ifanc yn dysgu. Cynigir ystod eang o bynciau, gan gynnwys AG gydag Addysg Awyr Agored, yr unig ganolfan yng Nghymru ble cynigir hyn.
Datblygiad Proffesiynol i Athrawon
Mae CaBan Bangor hefyd yn cynnig dysgu proffesiynol i athrawon. Gallwch astudio ar lefel Meistr naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser. Mae lleoedd wedi’u hariannu’n llawn ar gael ar y rhaglen Meistr Genedlaethol, Addysg Cenedlaethol (Cymru) (Cyfrwng Cymraeg) | Prifysgol Bangor. Gallech hefyd ddewis cwblhau gwaith ymchwil sy’n arwain at ddoethuriaeth.