Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru
Rhaglen Aelodau Cyswllt
Mae manylion am beilot y Rhaglen Aelodau Cyswllt wedi’u cyhoeddi ar wefan Dysgu Cymru. Cynhelir y peilot gyda grŵp bach o benaethiaid ar draws Cymru a gaiff y cyfle i fod yn rhan o’r rhaglen, yn ogystal â chynorthwyo i gyd-lunio a mireinio’r rhaglen ar gyfer carfanau’r dyfodol.
Bydd gan yr aelodau cyswllt ddylanwad wrth ffurfio’r Academi a’i datblygu yn y cyfnod cyntaf. Cânt gyfle i fod yn rhan o’r rhaglen ddatblygu arweinyddiaeth gyntaf y bydd yr Academi wedi’i llunio a’i pherchnogi, a byddant yn gosod esiampl i arweinwyr ledled Cymru.