Amdanom ni
Cymedroli Cyfnod Allweddol 2 a 3
Er nad oes unrhyw newid mawr i’r drefn eleni, mae GwE yn gofyn i glystyrau enwebu ‘arweinwyr asesu’ ar gyfer CA2 a CA3 erbyn Dydd Llun, 27 Tachwedd 2017. Eu rôl fydd sicrhau fod y wybodaeth am y broses yn cael ei rannu gyda’r athrawon ac adrannau perthnasol yn y clwstwr. Gweler yr amserlen am fwy o wybodaeth.
GWEITHREDOEDD A CHYFRIFOLDEBAU | AMSERLEN | CYFRANOGWYR |
Clystyrau i adnabod ‘Arweinydd Asesu’ ar gyfer CA2 a CA3. Eu rôl fydd derbyn a rhannu gwybodaeth am y broses i weddill y clwstwr. | Anfon yr enwau, e-bost a rhif ffôn at: HelenWilliams@gwegogledd.cymru erbyn Dydd Llun, 27 Tachwedd 2017 | Penaethiaid |
Cyfle i ‘Arweinwyr Asesu’ fynychu sesiwn gwybodaeth leol gyda GwE – bwriadwn gynnal sesiynau hwyrnos ar draws y rhanbarth. | Wythnos yn dechrau Dydd Llun, 4 Rhagfyr 2017 | ‘Arweinwyr Asesu’ Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE |
‘Arweinwyr Asesu’ i sicrhau fod pob ysgol o fewn y clwstwr yn ymwybodol o ofynion safoni a chymedroli a’r adnoddau sydd ar gael.
Anfon dyddiadau cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i GwE. |
Gyrru’r dyddiadau i: HelenWilliams@gwegogledd.cymru erbyn Dydd Gwener, 26 Ionawr 2017 | Penaethiaid Arweinwyr Asesu |
Clystyrau i safoni ac ysgolion i gymedroli gan baratoi ar gyfer cymedroli clwstwr. | Tymor yr Hydref – Gwanwyn | Athrawon yn yr ysgolion |
Penaethiaid / Arweinwyr Asesu i drefnu a hyrwyddo cyfarfodydd clwstwr i gymedroli cyrhaeddiad disgyblion.
Dylid cymedroli gwaith un disgybl ar Lefel 4 a 5 yn CA2 a Lefel 5 a 6 yn CA3 yn y pynciau craidd yn unol â gofynion statudol. |
Cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i ddigwydd yn nhymor y Gwanwyn a/neu’r Haf. | Penaethiaid Arweinwyr Asesu Ysgolion yn y clwstwr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant |
Bydd Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn mynychu’r cyfarfodydd hyn. |
Recent Comments