Cyflwyniad
Mae’r cyfrifoldeb dros ddarparu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd ac addysg gyrfaoedd yng Nghymru wedi’i rannu rhwng yr ysgolion a Gyrfa Cymru, ac mae gan y naill a’r llall rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio. Gall ysgolion ddarparu gwybodaeth am yrfaoedd, addysg gyrfaoedd a chyngor cychwynnol, ac mae Gyrfa Cymru yn darparu cyfarwyddyd gyrfaoedd ‘allanol’ a gwasanaeth cymorth ar gyfer y cwricwlwm, a ariennir gan y Llywodraeth ac a ddarperir gan staff proffesiynol cymwys. Mae Gyrfa Cymru yn ceisio darparu arweinyddiaeth ledled Cymru ar faterion yn ymwneud â gyrfaoedd ac, yn y cyd-destun hwn, mae’n cynnig amrywiaeth o ddatblygiadau a fydd yn gwella’r cymorth a gynigir yn y pen draw i bobl ifanc yng Nghymru.
Dylid dathlu cadw’r model a rennir yng Nghymru, ond mae’n glir o amryw o adroddiadau gan Estyn bod llawer o waith i’w wneud o hyd i fynd i’r afael ag ansawdd addysg gyrfaoedd mewn ysgolion. Unwaith eto, canfu adroddiad thematig diweddaraf Estyn ar weithrediad y Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith mewn ysgolion uwchradd nad yw’r mwyafrif o ysgolion wedi ymateb yn effeithiol i’r newidiadau i’r gwasanaethau a gynigir gan Gyrfa Cymru, fodd bynnag, mae’r weledigaeth strategol newydd ‘Newid Bywydau – Gweledigaeth ar gyfer Gyrfa Cymru 2017-20’ yn cynnig cyfeiriad clir o ran y gwasanaethau sydd i’w darparu gan Gyrfa Cymru a’r cymorth y gellid ei gynnig i ysgolion.
Diben
Diben y papur hwn yw adeiladu ar y cynigion yn ‘Newid Bywydau’ a chyflwyno strategaeth ar gyfer arweinyddiaeth gyrfaoedd yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru yn credu, os cyflwynir y cynigion hyn, y byddant yn arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth cymorth gyrfaoedd i bobl ifanc ledled Cymru.
Cyd-destun – ansawdd y ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith mewn ysgolion
Er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol am yrfaoedd a chael budd o’r cymorth a ddarperir gan Gyrfa Cymru, mae’n hanfodol bod addysg gyrfaoedd mewn ysgolion yn berthnasol, yn amserol ac o ansawdd uchel. Yn 2008, i gefnogi’r ddarpariaeth addysg gyrfaoedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru”, ac, yn ddiweddarach yn 2010, penderfynodd y dylai Estyn arolygu gweithrediad y fframwaith hwn ar sail thematig. Fodd bynnag, bu’r broses o gyflawni’r fframwaith yn amrywiol.
Yn 2012, cyhoeddodd Estyn Penderfyniadau gwybodus: Gweithredu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith a chanfu:-
- er bod bron pob ysgol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ddisgyblion i’w helpu i ddewis pynciau ym Mlwyddyn 9, prin oedd y defnydd a waned o wybodaeth am y farchnad lafur i alluogi disgyblion i wneud penderfyniadau hyddysg;
- nid oedd bron yr holl ysgolion yn dilyn cynnydd disgyblion yn erbyn yr amcanion dysgu yn y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith mewn modd cyson neu systematig;
- roedd yr amser mewn gwersi yr oedd ysgolion yn ei neilltuo ar gyfer Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn amrywio gormod;
- yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd ysgolion yn arfarnu eu darpariaeth o’r maes Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn ddigon trylwyr;
- nid oedd rôl y llywodraethwyr o ran cefnogi’r gwaith strategol o gynllunio a darparu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith wedi’i ddatblygu’n ddigonol;
- ym mhob ysgol bron, roedd Gyrfa Cymru yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith; fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd lleihad diweddar yng ngwasanaethau Gyrfa Cymru wedi rhoi pwysau ar gapasiti ysgolion i ddarparu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith.
Yn 2014, cyhoeddodd Estyn Gwasanaethau cymorth dysgwyr i ddisgyblion 14-16 oed. Archwiliodd yr adroddiad hwn ansawdd, cysondeb a natur ddiduedd y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir gan ysgolion i ddisgyblion cyn, yn ystod ac ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, gan gynnwys cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd. Nododd yr adroddiad hwn:
- mai’r ddarpariaeth o gyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd oedd nodwedd wanaf y cymorth i ddysgwyr;
- mai dim ond lleiafrif o ysgolion a oedd yn cynnig y cyfle i bob disgybl drafod eu cynlluniau gyrfa ym Mlwyddyn 9 neu Flwyddyn 11;
- nad oedd mwyafrif yr ysgolion yn darparu gwybodaeth gyfredol ar gyrsiau, cyfleoedd gyrfa a llwybrau cynnydd i ddisgyblion;
- bod ffafriaeth o blaid cadw disgyblion yn y chweched dosbarth mewn ysgolion 11-18;
- nad oedd ysgolion wedi ystyried yn ddigon gofalus sut y dylent ddarparu’r gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol gan Gyrfa Cymru.
Ymddengys fod adroddiad thematig diweddaraf Estyn yn dangos bod tystiolaeth gyfyngedig ynghylch unrhyw welliant sylweddol yn y ddarpariaeth o’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith gydag ychydig iawn o ysgolion wedi cryfhau eu darpariaeth ers 2012. Mae rhai o’r prif ganfyddiadau yn cynnwys:-
- dim ond ychydig o ysgolion sy’n sicrhau bod pob disgybl cyfnod allweddol 4 yn cael cyfweliad i drafod eu hopsiynau gyrfa;
- mae ysgolion 11-18 yn rhoi gormod o bwyslais ar hyrwyddo eu chweched dosbarth eu hunain;
- er bod yr amser a neilltuir ar gyfer darpariaeth sy’n gysylltiedig â Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith wedi cynyddu’n gyffredinol, mewn nifer o achosion, mae’r ddarpariaeth wedi’i chynllunio ar sail gofynion Bagloriaeth Cymru;
- mae cyfran y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau profiad gwaith wedi lleihau yn sylweddol;
- nid yw’r broses o olrhain cynnydd disgyblion wedi’i datblygu’n ddigonol;
- nid yw’r systemau cynllunio hunanwerthuso a gwella ar gyfer Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn ddigon trylwyr;
- mae cyfran y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith a ddarperir drwy bartneriaethau allanol wedi lleihau.
Beth y gellir ei wneud i wella’r ddarpariaeth addysg gyrfaoedd yng Nghymru?
a. Cyflwyno’r rôl Arweinwyr Gyrfaoedd mewn ysgolion
Mae rhaglen effeithiol o addysg, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn gofyn am gyfraniadau gan nifer o wahanol aelodau o staff (e.e. athrawon gyrfaoedd, athrawon pwnc, tiwtoriaid, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol), a chyfraniadau gan amrywiaeth o bartneriaid (e.e. cynrychiolwyr AB ac AU, cyflogwyr, darparwyr prentisiaethau, Cynghorwyr Gyrfa), oll wedi’u cydgysylltu mewn rhaglen gydlynol, flaengar ac integredig o gymorth gyrfaoedd o gyfnod allweddol 3 hyd y chweched dosbarth.
Mae Gyrfa Cymru yn credu bod angen dwy rôl broffesiynol sy’n ategu ei gilydd yng Nghymru i sicrhau darpariaeth effeithiol; y Cynghorydd Gyrfa (sy’n gweithredu fel Swyddog Cyfrif), i gymryd cyfrifoldeb dros ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd di-duedd ac annibynnol, a’r Arweinydd Gyrfaoedd, a gefnogir gan amrywiaeth o gydweithwyr dysgu, i gymryd cyfrifoldeb dros yr arweinyddiaeth a’r gwaith o reoli Addysg, Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd o ddydd i ddydd. Gellir rhannu’r tasgau sydd ynghlwm wrth hyn o dan bedwar pennawd cyffredinol: gwaith cydlynu (sy’n cysylltu’r holl gyfraniadau o fewn yr ysgol); rhwydweithio (sy’n cysylltu’r holl gyfraniadau gan bartneriaid allanol); gwaith rheoli (sicrhau’r ddarpariaeth o addysg gyrfaoedd a gwybodaeth a chyngor cychwynnol a’r gwaith o weinyddu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn effeithiol); arweinyddiaeth (darparu arweinyddiaeth strategol a sicrhau ansawdd).
Mae’r darlun presennol mewn perthynas ag arweinyddiaeth gwybodaeth, cyngo a chyfarwyddyd gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru yn amrywio. Yn ei adroddiad diweddar, A National Ambition: Enterprise education, schools and the Welsh Economy, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn nodi: “Very few secondary schools now seem to have a dedicated member of staff for careers education” (t16). I’r gwrthwyneb, mae Estyn (2017) yn nodi bod gan y rhan fwyaf o ysgolion aelod dynodedig o staff sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddarparu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith. Fodd bynnag, daeth Estyn i’r casgliadau a ganlyn:-
- mae mwy o arweinwyr canol, yn hytrach nag uwch arweinwyr, sy’n gyfrifol am y maes Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith ers ei arolygiad thematig diwethaf yn 2012;
- dim ond hanner y ‘Cydlynwyr Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith’ sydd ag amcanion rheoli perfformiad penodol ar gyfer Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith;
- yn hanner yr ysgolion, nid oes swydd-ddisgrifiad ar gyfer y rôl ‘Cydlynydd Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith’ neu nid yw wedi’i adolygu am gyfnod eithaf hir, sy’n cyfyngu ar gapasiti uwch arweinwyr i werthuso effeithiolrwydd y Cydlynydd.
Byddai cyflwyno’r rôl Arweinydd Gyrfaoedd, fel rhan o gynllun strategol mewn ymateb i ymchwiliad Estyn yn 2017, yn cynorthwyo i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. Byddai’r rôl yn dod ag eglurder a chysondeb ar draws ysgolion, yn darparu cyswllt allweddol ar gyfer gwaith gyda Gyrfa Cymru ac yn helpu i sefydlu arweinyddiaeth ym maes Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd fel blaenoriaeth ym mhob ysgol. Wrth wneud yr argymhelliad hwn, byddai Gyrfa Cymru yn gwneud y pwyntiau a ganlyn:-
- Mae’r rôl yn swydd arweinyddiaeth ganol o leiaf ac mae angen rhoi lle priodol iddi yn y strwythur sefydliadol er mwyn gallu cyflawni’r tasgau’n effeithiol. Dylid ei chydnabod gyda lwfans cyfrifoldeb priodol a dylid neilltuo amser ar gyfer y tasgau.
- Sefydlu’r rôl fel arweinydd canol yw’r cam cyntaf tuag at sicrhau bod trefniadau effeithiol ar gyfer arweinyddiaeth gyrfaoedd yn yr ysgol. Mae hefyd yn arwydd i uwch arweinwyr, er mwyn bod yn effeithiol yn y rôl hon, y bydd angen lefel ac ehangder o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer yr Arweinydd Gyrfaoedd sy’n cyd-fynd â’r rôl hon.
- Dylai’r Arweinydd Gyrfaoedd gael cymorth gweithredol gan aelod dynodedig o’r uwch dîm arwain (yn aml pennaeth cynorthwyol neu ddirprwy bennaeth) fel ei reolwr llinell. Dylai gael yr amser i arwain a rheoli’n effeithiol, a dylai hefyd allu dirprwyo’r tasgau trefniadol a gweinyddol mwy arferol i aelod o’r staff cymorth a ddynodwyd fel y gweinyddwr gyrfaoedd.
- Nid yw Arweinwyr Gyrfaoedd yn gyfystyr â sefydlu proffesiwn newydd, ond mae’r rôl yn un broffesiynol. Mae gan athrawon sy’n symud i’r rôl Arweinydd Gyrfaoedd hunaniaeth broffesiynol fel athrawon eisoes, ond maent wedi mabwysiadu hunaniaeth broffesiynol ychwanegol o fewn y proffesiwn gyrfaoedd. Byddai’r un peth yn wir am weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymgymryd â’r rôl hon.
Mae Gyrfa Cymru yn credu bod y datblygiad hwn yn amserol o gofio canllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch y rolau a’r cyfrifoldebau priodol sy’n gysylltiedig â darparu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith, o’r enw Gyrfaoedd a’r byd gwaith: rolau a chyfrifoldebau, a gyhoeddwyd yn 2012 ac sy’n cynnwys rolau yr ymddengys eu bod yn llai amlwg mewn ysgolion heddiw e.e. Anogwyr Dysgu, Cydlynwyr Lleoliadau Gwaith, ac ati.
b. Darparu cymorth gyda Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Arweinwyr Gyrfaoedd mewn ysgolion
Mae’n anarferol i athrawon gael hyfforddiant cychwynnol i fod yn Arweinwyr Gyrfaoedd. Byddai’r mwyafrif o athrawon a allai ddod i’r rôl yn gwneud hynny o rolau blaenorol gwahanol, p’un a ydynt yn athrawon neu â swydd arall. Mae’n dilyn, os ydynt yn mabwysiadu’r rôl broffesiynol newydd hon, y dylent gael mynediad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus priodol i roi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau iddynt gyflawni’r dasg o dan sylw. Bydd yr anghenion hyfforddi penodol yn dibynnu ar brofiad blaenorol yr Arweinydd Gyrfaoedd a bydd yn wahanol yn dibynnu ar eu rolau blaenorol.
Yn ‘Newid Bywydau – Gweledigaeth ar gyfer Gyrfa Cymru 2017-20’, mae Gyrfa Cymru yn nodi bod gwasanaethau gwell i gefnogi sefydliadau eraill i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu eu gyrfaoedd yn flaenoriaeth allweddol, ac mae eisoes yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth i adeiladu capasiti a chyfleoedd hyfforddi.
Yng nghyd-destun y cynnig i sefydlu Arweinydd Gyrfaoedd, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd â’r Sefydliad Datblygu Gyrfa i dreialu’r Dystysgrif mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd, sy’n seiliedig ar dri o’r unedau dewisol o’r Diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa (Gellir canfod rhagor o fanylion yn: www.thecdi.net/Certificate-in-Careers-Leadership). Dechreuodd y grŵp cyntaf o athrawon o’r rhanbarth ERW y cymhwyster ar 26 Medi 2017 gyda dyddiad cwblhau arfaethedig o fis Gorffennaf 2018. Bydd hyn yn cael ei arfarnu maes o law, ond o ganlyniad i’r cynllun peilot hwn, bydd gan Gyrfa Cymru (a) y deunyddiau angenrheidiol i ddarparu’r cymhwyster yn Gymraeg a Saesneg, (b) staff sydd wedi cyd-ddarparu’r cwrs gyda chydweithwyr yn Sefydliad Datblygu Gyrfa a fydd, maes o law, yn gallu darparu’r cymhwyster i grwpiau o athrawon yn y dyfodol.
c. Cyflwyno fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith newydd, ar sail sgiliau rheoli gyrfaoedd, fel rhan o’r cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus
Fel y nodwyd yn gynharach, cyflwynwyd y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith presennol yn 2008, ond mae tystiolaeth glir gan Estyn bod angen adolygu ac adnewyddu’r fframwaith bellach er mwyn rhoi momentwm newydd i’r ddarpariaeth addysg gyrfaoedd mewn ysgolion.
Yn gyntaf, er bod y fframwaith, mewn egwyddor, wedi rhoi mwy o eglurder a gallu i reoli i sefydliadau dysgu na’r fersiynau blaenorol drwy ddatganiadau clir am ystod a sgiliau cysylltiedig, yn anffodus, dangosodd arolygiadau thematig Estyn yn 2012 a 2017:
- fod tystiolaeth nad yw cynnydd disgyblion tuag at yr amcanion dysgu yn y fframwaith yn cael ei olrhain yn ddigonol;
- nad yw nifer o ysgolion yn arfarnu eu darpariaeth o’r maes Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn ddigon cadarn.
O’r herwydd, ceir amheuaeth ynghylch effaith y fframwaith presennol ac, yn wir, un o’r argymhellion yn adroddiad mwyaf diweddar Estyn yw adolygu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith a diweddaru’r canllawiau yng ngoleuni egwyddorion y broses o ddiwygio’r cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus.
Yn ail, mae’r fframwaith bron yn ddeg oed ac er bod yr egwyddorion cyffredinol yn parhau i fod yn gyfoes, mae angen diweddaru’r cynnwys. Er enghraifft, nid oes llawer yn y fframwaith presennol ynghylch sgiliau digidol a’u perthynas â chyflogadwyedd. Ymhellach, mae angen i rai o’r datganiadau ystod allweddol e.e. creu CV, gael eu cyfnewid am gymwysiadau modern e.e. rheoli proffiliau digidol, profiad o gymwysiadau digidol megis cyfweliadau Skype, ac ati.
Yn olaf, mae Gyrfa Cymru yn credu bod addysg gyrfaoedd effeithiol mewn ysgolion mor bwysig ag erioed. Cefnogir y farn hon gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n nodi ‘…it should be made mandatory for schools to provide careers education as part of the new curriculum arrangements and that Estyn should be asked to inspect against this requirement’ (t25). Yn bwysicach, ym mis Chwefror 2015, cyhoeddwyd ‘Dyfodol Llwyddiannus’ (Donaldson, 2015) a nododd yr adroddiad yr hoffai plant a phobl ifanc weld mwy o ffocws ar gyfarwyddyd gyrfaoedd (t17). Yn dilyn hynny, un o bedwar diben y cwricwlwm arfaethedig, a gefnogwyd yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yw creu cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. O’r herwydd, dylai’r cwricwlwm newydd arfaethedig ddarparu llwyfan perffaith ar gyfer gwella addysg gyrfaoedd mewn ysgolion.
Fodd bynnag, mae Gyrfa Cymru yn pryderu nad yw’r cynlluniau ar hyn o bryd i gynnwys neu sefydlu addysg gyrfaoedd yn y cwricwlwm newydd yn ddigon cadarn. Yn Cymwys am Oes (2015), mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r 8 cam ar gyfer datblygu’r cwricwlwm newydd, sy’n cynnwys y cam i ddatblygu cyfrifoldebau ar draws y cwricwlwm. O fewn y cam hwn, mae’r adroddiad yn nodi bod tri chymhwyster allweddol sy’n sail i bron bob math o ddysgu ac sy’n hanfodol ar gyfer cymryd rhan yn llwyddiannus a hyderus yn y byd modern, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol (t16). Er na fyddem yn anghytuno â’r datganiad hwn, mae Gyrfa Cymru yn credu bod addysg gyrfaoedd hefyd yn hanfodol er mwyn cymryd rhan yn llwyddiannus yn y byd modern ac felly y dylai fod yn thema ar draws y cwricwlwm.
Rydym wedi gweithio’n rhagweithiol gyda chonsortia lleol i ddatblygu syniadau ar gyfer ‘modiwlau gyrfaoedd’ a allai gefnogi’r 6 maes dysgu a phrofiad, fodd bynnag, ar lefel strategol mae hyn yn annhebygol o arwain at fabwysiadu egwyddorion allweddol addysg gyrfaoedd mewn modd cyson. Yn ogystal, deallwn y bydd y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith presennol yn dod i ben, yn ei hanfod, yn 2022, a fyddai’n cael effaith ddifrifol ar ein gallu i fynd i’r afael â phryderon a godwyd gan Estyn ynghylch effaith y ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith a’r broses o’i gwerthuso.
Ein cynnig yw bod Gyrfa Cymru, drwy secondiad i dîm cwricwlwm Llywodraeth Cymru, yn arwain y gwaith o ddatblygu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith newydd, ond sy’n seiliedig ar sgiliau rheoli gyrfa. Mabwysiadwyd y dull hwn yn llwyddiannus iawn gan wledydd datblygiedig mawr fel UDA, Canada ac Awstralia, ac yn agosach adref mewn gwledydd fel yr Alban sy’n defnyddio’r Career Management Skills Framework for Scotland i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r cwricwlwm mewn ysgolion. Yng Nghymru, byddai’r fframwaith yn seiliedig ar y sgiliau rheoli gyrfa a ganlyn:-
- Ysgogiad – ymgysylltu â’r broses gynllunio;
- Hunanymwybyddiaeth – datblygu dealltwriaeth o’r sgiliau, galluoedd, cryfderau, ac ati;
- Ymwybyddiaeth o gyfleoedd – datblygu gwybodaeth am y farchnad lafur;
- Gwneud penderfyniadau – y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol sy’n ymwneud â gyrfaoedd;
- Gwytnwch – gallu goresgyn rhwystrau;
- Cymhwyso – y sgiliau i wneud cais am gyfleoedd mewn amrywiaeth o ffyrdd;
- Digidol – y defnydd o offer a rhaglenni digidol i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau gyrfa.
Mae’r sgiliau hyn yn disgrifio cyfres o sgiliau, dulliau gweithredu a galluoedd sy’n gorgyffwrdd sy’n cefnogi cyfleoedd bywyd unigolyn. Cawsant eu disgrifio gan Rwydwaith Polisi Cyfarwyddyd Gydol Oes Ewrop fel a ganlyn: ”Careers management skills refer to a whole range of competencies which provide structured ways for individuals and groups to gather, analyse, synthesise and organise self, educational and occupational information as well as the skills to make and implement decisions and transitions” (t8 – Career Management Skills Framework for Scotland).
Byddai’r fframwaith yn:-
- Diffinio a disgrifio sgiliau rheoli gyrfa er mwyn i unigolion allu cydnabod a defnyddio eu sgiliau’n haws;
- Cefnogi hunanfyfrio er mwyn i benderfyniadau fod yn ystyriol ac yn briodol, a
- Chydnabod sgiliau a chryfderau presennol a meysydd i’w datblygu.
Byddai’r fframwaith yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru sy’n gyfrifol am gynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd a dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd. O’r herwydd, byddai’r fframwaith yn mynd i’r afael ag un o argymhellion allweddol Estyn, sef sefydlu addysg gyrfaoedd o fewn y cwriciwlwm newydd a sicrhau bod dull gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg gyrfaoedd yn cydfynd â dulliau gwledydd datblygedig mawr.
ch. Mabwysiadu meincnodau Gatsby yn ffurfiol fel mesurau o wahanol elfennau o Wybodaath, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd
Comisiynwyd Syr John Holman – Athro Emeritws Cemeg ym Mhrifysgol Caerefrog, uwch gynghorydd addysg a chyn bennaeth – gan Sefydliad Elusennol Gatsby yr Arglwydd David Sainsbury i nodi beth fyddai cynnwys canllawiau gyrfaoedd yn Lloegr pe baent yn ‘dda’ ar sail safonau rhyngwladol. Yn 2014, cyhoeddwyd adroddiad Syr John Holman, ‘Good Career Guidance’.
Nodwyd wyth meincnod yn ‘Good Career Guidance’ ar sail gwaith ymchwil a thystiolaeth ryngwladol ynghylch yr hyn sy’n gweithio. Mae’r meincnodau fel a ganlyn:-
- Rhaglen gyrfaoedd sefydlog
- Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur
- Mynd i’r afael ag anghenion pob disgybl
- Cysylltu addysg y cwricwlwm â gyrfaoedd
- Dod i gysylltiad â chyflogwyr a gweithwyr
- Profiadau o weithleoedd
- Dod i gysylltiad ag addysg bellach ac uwch
- Cyfarwyddyd personol
Mae pob meincnod yn cynnwys nodweddion allweddol. I gyflawni meincnod yn llawn, rhaid i ysgol gyflawni ei holl nodweddion allweddol yn llawn. Fel rhan o’r gwaith ymchwil gwreiddiol, canfu arolwg o 10% o’r ysgolion yn Lloegr nad oedd yr un ysgol wedi cyflawni mwy na phump o’r wyth meincnod yn llawn, gyda’r mwyafrif o’r ysgolion hynny a gafodd eu harolygu’n cyflawni rhwng dim a dau feincnod yn llawn.
Yn dilyn cyhoeddi ‘Good Career Guidance Report’ Gatsby, gofynnwyd i Bartneriaeth Menter Lleol y Gogledd-ddwyrain arwain cynllun peilot cenedlaethol i arddangos sut y gall ysgolion a cholegau, o fannau cychwyn gwahanol, gyrraedd safon uchel y meincnodau. Dechreuwyd y cynllun ym mis Medi 2015, yn cynnwys 16 o ysgolion a cholegau, gyda gweithgaredd dwys yn digwydd tan haf 2017.
Bu’r canlyniadau hyd yma yn anogol dros ben. Mae’r adroddiadau interim yn dangos yr amcangyfrifon dangosol o gynnydd a ganlyn:
- Y cynnydd ar gyfartaledd ym mlwyddyn un oedd + dau, sef cyflawni dau feincnod ychwanegol o gymharu â’r man cychwyn
- Mae’r cynnydd ar gyfartaledd ym mlwyddyn dau yn debygol o fod yn + pedwar, sef cyflawni pedwar meincnod ychwanegol yn llawn o gymharu â mannau cychwyn blwyddyn dau
- Mae’r cynnydd ar gyfartaledd o ddechrau blwyddyn un hyd ddiwedd blwyddyn dau yn debygol o fod yn + chwech, sef cyflawni chwe meincnod ychwanegol yn llawn o gymharu â’r mannau cychwyn.
Mae gwerthusiad interim o’r cynllun peilot yn dangos bod y meincnodau’n cael effaith mewn nifer o ffyrdd:-
- Defnyddioldeb y meincnodau fel offeryn archwilio ar gyfer ysgolion/colegau er mwyn adrodd ar eu darpariaeth o gyfarwyddyd gyrfaoedd ac i greu cynllun gweithredu ar gyfer gwelliannau penodol, mesuradwy.
- Mae’r canlyniadau’n dangos ei bod yn bosibl gwneud cynnydd sylweddol a chyflym – gan ddefnyddio’r meincnodau fel fframwaith – er mwyn targedu gwelliannau mewn ysgolion/colegau o bob math, maint, lleoliad a strwythur yn ofalus.
- Mae perthnasoedd newydd, strategol gyda chyflogwyr bellach yn bodoli ac mae gan ysgolion/colegau gylluniau clir ar gyfer ymgysylltu a systemau ar waith i fesur ansawdd ac effaith. Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y llywodraethwyr ‘gyrfaoedd’ neu ‘fusnes’.
- Mae strwythurau strategol a darparu newydd hefyd wedi ymddangos mewn ysgolion/colegau, gan wneud y mwyaf o effaith y meincnodau, gan gynnwys ailddyrannu adnoddau presennol ar gyfer darpariaeth gyrfaoedd.
- Integreiddio’r cwricwlwm – Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar y cyd, lleoliadau ar gyfer athrawon/arweinwyr gyrfaoedd mewn diwydiant, darpariaeth ddigidol.
- Mae’r cynllun peilot wedi ysbrydoli cydweithredu a syniadau arloesol o ran y dull o ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd da.
Mae Gyrfa Cymru yn credu bod yr amser yn iawn i ystyried mabwysiadu’r meincnodau hyn yn ffurfiol yng Nghymru. Rydym yn credu y byddai’r meincnodau’n sicrhau bod y fframwaith sgiliau rheoli gyrfaoedd yn cael ei gyflawni h.y. byddai’r fframwaith yn arwain ysgolion mewn perthynas â dysgu a’r cwricwlwm tra byddai meincnodau Gatsby’n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer darparu’r rhaglenni Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd o fewn y cwricwlwm newydd. Gyda’i gilydd, byddai’r rhain yn sail ar gyfer dull newydd o arfarnu’r broses o ddarparu Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd gan ysgolion. Byddai Gyrfa Cymru yn mabwysiadu rôl o ran arfarnu effaith y ddau ddull hyn.
ON Daeth cynllun peilot y Gogledd-ddwyrain i’r casgliad a ganlyn hefyd: “Analysis of evidence, emerging data and observations within the school / college visits over the duration of the pilot also suggests that progress against the benchmarks (and therefore improved careers provision for all young people) is greater and more rapid when the careers leader is either a member of the senior leadership team (SLT) or when they have a dedicated and active SLT link responsible for the strategic leadership and quality of careers provision” (t5). Mae hyn yn cefnogi ymhellach ein barn y dylid mabwysiadu’r rôl ‘Arweinydd Gyrfaoedd’ yn ffurfiol ar draws ysgolion yng Nghymru.
d. Cyflwyno ‘Marc’ Gyrfa Cymru newydd neu ‘Wobr Rhagoriaeth mewn Addysg Gyrfaoedd’ sy’n cyfuno’r fframwaith sgiliau rheoli gyrfaoedd newydd a meincnodau Gatsby
Ar sail yr adborth gan randdeiliaid mewn addysg yn ystod cyfnod ei ddatblygu, dyluniwyd ‘Marc’ presennol Gyrfa Cymru i ganolbwyntio ar welliant parhaus yn hytrach nag asesiad o’r safonau o’r ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith. Mae’n ofynnol bod ysgolion a cholegau’n cynnal archwiliad yn erbyn y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith a fframwaith arolygu cyffredin Estyn, llunio cynllun datblygu ac yna ddarparu tystiolaeth o’r ymrwymiad i gyflawni’r cynllun.
Dogfennwyd llwyddiant Marc Gyrfa Cymru mewn adroddiadau i Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, a chafodd gryn gefnogaeth gan randdeiliaid. Er enghraifft, yn adroddiad 2016 Llywodraeth Cymru, Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus, un o’r argymhellion oedd y dylai pob ysgol ymrwymo i ennill y Marc cyn gynted â phosibl. Yn ogystal, mae nifer o awdurdodau lleol wedi cynnwys ennill y Marc yn eu cynlluniau gwella ysgolion ac, mewn rhai awdurdodau, cafwyd ymateb rhagorol, er enghraifft, ym Mro Morgannwg, mae pob ysgol uwchradd wedi ennill y Marc.
Mae Gyrfa Cymru yn falch iawn bod dros 135 o ysgolion a cholegau yng Nghymru wedi ennill y Marc, ac un o’r argymhellion o adroddiad thematig Estyn yn 2012 oedd y dylai Llywodraeth Cymru annog mwy o ysgolion i ymgysylltu â phroses y Marc. Er ein bod yn cefnogi hyn, ac er bod ein harfarniad mewnol yn cefnogi’n glir y cysylltiad rhwng ysgolion sydd wedi ennill y Marc a chanlyniadau archwilio rhagorol gan Estyn, rydym yn cynnig dull newydd y credwn y bydd yn gwella ymhellach effaith proses o’r fath.
Mae Gyrfa Cymru yn credu y dylem gyflwyno ‘Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysg Gyrfaoedd’ newydd sydd â 2 ran iddi. Byddem yn dymuno gweithio gyda chydweithwyr yn Estyn i ddylunio gwobr (o gofio ei ddiddordeb mewn mesur yr effaith ar ganlyniadau i ddysgwyr), a byddem hefyd yn edrych ar archwilio cymorth gan gyflogwyr mawr yn ogystal ag achrediad ffurfiol, ond, fel man cychwyn, gallai’r wobr fod yn seiliedig ar y strwythur a ganlyn:-
Cam 1 (angen cytuno ar y brandio, ond gellid ei ddisgrifio fel gwobr ganolradd neu wobr arian):-
- Yn seiliedig ar yr egwyddorion o welliant parhaus, fel yn achos y Marc Gyrfa Cymru presennol;
- Byddai cyflawni’r cam hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod ysgolion yn (a) archwilio yn erbyn y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (a fydd yn seiliedig ar sgiliau os derbynnir a datblygir y cynigion yn y papur hwn), (b) archwilio yn erbyn trefniadau archwilio newydd Estyn, (c) cynhyrchu cynllun datblygu sy’n amlinellu sut y bydd yr ysgol yn gwella ei darpariaeth bresennol o’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith.
Byddai strwythuro cam 1 o’r wobr yn y modd hwn yn galluogi ysgolion y mae angen cymorth sylweddol arnynt i ddechrau ar y daith o welliant parhaus ac i beidio â cholli diddordeb oherwydd bod y wobr yn canolbwyntio’n llwyr ar safonau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cam 2 (angen cytuno ar y brandio, ond gellid ei ddisgrifio fel gwobr uwch neu wobr aur):-
- Ar gyfer ysgolion sydd eisoes wedi cwblhau cam 1;
- Byddai cyflawni’r cam hwn yn ddibynnol ar y ffaith bod ysgolion yn cyflawni nifer y cytunwyd arno o feincnodau Gatsby e.e. 6 allan o 8 o feincnodau wedi’u cyflawni’n llawn. Fodd bynnag, gellid defnyddio’r meincnodau i gategoreiddio’r wobr ymhellach ar sail disgwyliadau realistig;
- Dylai cyflawni’r wobr lawn fod yn seiliedig ar asesiad trylwyr. Yn yr ystyr hwnnw, mae’n bosibl bod sgôp i Estyn fod yn rhan o unrhyw ffurf o achrediad.
Byddai gwobr o’r natur hon yn cynnal y dulliau gweithredu presennol mewn perthynas â darpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith o safon, ond byddai cynnwys cam sy’n seiliedig ar safonau (a fyddai, yn ei dro, yn seiliedig ar feincnodau Gatsby, pe byddent yn cael eu mabwysiadu’n ffurfiol yng Nghymru) yn cynorthwyo i wella safonau a dyheadau ysgolion i ddarparu dulliau dysgu Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith llawer gwell. Yn unol â’r cynigion a nodwyd yn Newid Bywydau, byddai’r Tîm cwricwlwm o fewn Gyrfa Cymru yn rhoi cymorth i ysgolion gyda meithrin capasiti i hwyluso eu gallu i ennill y wobr.
Casgliadau
I grynhoi, mae ein cynigion i wella’r ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yng Nghymru yn cynnwys:-
- Cyflwyno rôl yr Arweinydd Gyrfaoedd mewn ysgolion gyda rolau a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n glir;
- Darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ffurfiol i gefnogi gweithrediad y rôl hon;
- Datblygiad a chyflwyno fframwaith sgiliau rheoli gyrfa newydd i sbarduno’r ddarpariaeth o gymorth gyrfaoedd mewn ysgolion;
- Mabwysiadu meincnodau Gatsby yn ffurfiol yng Nghymru;
- Cyflwyno ‘Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysg Gyrfaoedd’, wedi’i datblygu gan Gyrfa Cymru ac wedi’i chefnogi gan Estyn a chyflogwyr, i wella safonau.
Argymhellion
Dylai cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru adolygu’r cynigion hyn a’u trafod yn fwy manwl gyda Gyrfa Cymru fel rhan o’r negodiadau ar y cylch gwaith ar gyfer 2018/19.
Cyfeiriadau
Gyrfa Cymru (2017) – Newid Bywydau – Gweledigaeth ar gyfer Gyrfa Cymru 2017-20
Donaldson, G (2015) – Dyfodol Llwyddiannus
Estyn (2012) – Penderfyniadau gwybodus: Gweithredu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith
Estyn (2014) – Gwasanaethau cymorth dysgwyr i ddisgyblion 14-16 oed
Estyn (2017) – Gyrfaoedd – Gweithredu’r fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith mewn ysgolion uwchradd
Ffederasiwn Busnesau Bach (2017) – A National Ambition: Enterprise Education, Schools and the Welsh Economy
Sefydliad Elusennol Gatsby (2014) – Good Career Guidance
Partneriaeth Menter Lleol y Gogledd-ddwyrain (2017) – Making Good Career Guidance Great. An Update on the Good Career Guidance Benchmarks national pilot
Skills Development Scotland (2012) – Career Management Skills Framework for Scotland
Llywodraeth Cymru (2008) – Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru
Llywodraeth Cymru (2012) – Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: rolau a chyfrifoldebau
Llywodraeth Cymru (2015) – Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes
Llywodraeth Cymru (2016) – Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus