Campau Mes 2017
Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto:
- Pryfed cop yn dechrau dod i mewn i’r tŷ am y gaeaf
- Dail yn dechrau newid eu lliw
- Sŵn mes yn disgyn i’w glywed
Campau Mes 2017
Gwahoddir grwpiau addysg o Gymru gyfan i gasglu mes o’r amgylchedd naturiol gwych sydd ar garreg ein drws a chysylltu â’r amgylchedd hwnnw a dysgu amdano.
Gan fod nifer o’n rhywogaethau coed brodorol, megis y dderwen, wedi cael eu heffeithio gan blâu a chlefydau niweidiol dros y blynyddoedd diweddar, bydd ymgyrch Campau Mes yn sicrhau y bydd y glasbrennau derw ifanc a blannir ar ystâd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn fwy addas i amodau lleol a chanddynt gyfradd dyfu a gwydnwch gwell i glefyd.
Bydd CNC yn talu £4.10 fesul cilogram i grwpiau addysg am fes derw. Ar ôl eu casglu, bydd y mes yn cael eu hanfon i blanhigfa’r Comisiwn Coedwigaeth yn Swydd Gaer i’w tyfu yn lasbrennau. Byddant yn cael eu dychwelyd i Gymru i’w plannu mewn coedwigoedd a fforestydd yn agos i’r fan ble y cafodd y mes eu casglu.
A oes gennych ddiddordeb yn cymryd rhan?
- A ydych chi’n arweinydd grŵp addysg? A fyddai eich grŵp yn elwa o fynd i’r awyr agored a chysylltu â natur a dysgu amdano wrth godi arian? Gall grwpiau addysgol megis, grwpiau ysgol, Brownies, Sgowtiaid neu Ffermwyr Ifanc drefnu i gasglu hadau. Gall pobl hefyd gymryd rhan trwy gyfrannu mes i’w grŵp addysg lleol.
- A ydych chi’n dirfeddiannwr? A ydych chi’n barod i roi caniatâd i grwpiau addysg lleol i ymweld â’ch tir i gasglu a gwerthu’r mes er eu budd?
- A ydych chi’n ddarparwr addysg awyr agored annibynnol? A allech chi gynnal sesiwn ar wasgaru hadau i grŵp addysg lleol wrth roi cyfle iddynt gasglu mes?
Os ydych chi, ymwelwch â thudalen gwe Campau Mes ble y bydd gwybodaeth bellach ar sut i gynnal casgliad a gweithgareddau addysg posibl ar wasgaru ac egino hadau.
Gadewch i ni wybod sut hwyl yr ydych yn ei gael trwy yrru neges i @NatResWales gan ddefnyddio’r tag #CampauMes