TEDxGwE
DIGWYDDIAD CYFRI'R DYDDIAU CYN COP26
Yn ein digwyddiad TEDx arloesol yn Theatr Clwyd cyflwynodd blant ysgolion gogledd Cymru y sgyrsiau TED a ganlyn i alw am weithredu ar newid hinsawdd.
Daeth bron i 100 o blant a phobl ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyd a lled gogledd Cymru ynghyd mewn digwyddiad TEDx arloesol yn Theatr Clwyd ar 1 Tachwedd i alw am fwy o weithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd er mwyn creu gwell dyfodol i genedlaethau’r dyfodol.
Cafodd y digwyddiad – TEDxGwE: Cyfri’r Dyddiau cyn COP26 – ei drefnu trwy bartneriaeth rhwng GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru), Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru, Adfywio Cymru a Do-Well (UK) Ltd.
Iolo Williams, sy’n gyflwynydd teledu a radio, naturiaethwr, awdur ac arweinydd teithiau bywyd gwyllt oedd Cadeirydd y digwyddiad.
Roedd yn rhan o gyfri’r dyddiau cyn COP26 (Cynhadledd y Pleidiau), sef Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow ym mis Tachwedd. Y nod oedd dod â phartneriaid o bob cwr o’r rhanbarth ac o bob sector at ei gilydd i wrando ar blant a phobl ifanc y rhanbarth yn cyflwyno eu Sgyrsiau TED eu hunain am newid hinsawdd.
Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn cynnwys Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Maesglas, Ysgol Pentrecelyn, Mochdre, Ysgol Alun, Castell Alun, Ysgol Cerrigydrudion, Ysgol Y Foel, Ysgol Abererch, Ysgol San Siôr ac Ysgol Clywedog.
I’w helpu i baratoi, cafodd y bobl ifanc hyfforddiant siarad cyhoeddus a’u mentora gan arbenigwyr arweinyddiaeth Do-Well a Krish Patel, sy’n hyfforddwr, awdur a sylfaenydd llwyfan adrodd straeon Tales to Inspire, er mwyn eu helpu i siapio eu Sgwrs TED i ennyn diddordeb, i ysbrydoli, i ddylanwadu ac i alw am weithredu.
Meddai Gavin Cass, Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant gyda GwE: “Mae sicrhau digwyddiad TEDx yn gyflawniad aruthrol i’n rhanbarth, a bydd yn cynnig llwyfan byd-eang i bobl glywed llais ein pobl ifanc yn y dyddiau cyn COP26. Fe’m syfrdanwyd gan y straeon pwerus i mi eu clywed gan blant a phobl ifanc wrth iddynt baratoi at ein digwyddiad TEDx. Mae ganddynt neges gadarn, bod angen i ni weithredu yn awr i fynd i’r afael â newid hinsawdd er mwyn amddiffyn ein planed a sicrhau gwell dyfodol i genedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu â Pholisi Cyhoeddus, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, sy’n cefnogi TEDxGwE drwy Genhadaeth Ddinesig: “Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i blant a phobl ifanc ar hyd a lled gogledd Cymru gael dylanwad ar arweinwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng nghyd-destun yr her sydd yn ein wynebu ni i gyd o ran newid hinsawdd. Pleser o’r mwyaf yw gallu cynnig ein cefnogaeth drwy Genhadaeth Ddinesig y Brifysgol, sydd â’r nod o roi terfyn ar anghydraddoldeb cymdeithasol yng ngogledd Cymru erbyn 2030, oherwydd cydnabyddwn bod mynd i’r afael â her newid hinsawdd yn rhan hanfodol o’r agenda hon. Does neb yn well na ein pobl ifanc i ledaenu’r neges hanfodol hon, sydd â’u dyfodol yn dibynnu ar benderfyniadau ein harweinwyr yn awr, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw iawn at glywed eu Sgyrsiau TED yn y digwyddiad arloesol hwn, a fydd gobeithio yn ysbrydoli newid go iawn yn yr hir dymor.”
Mae TEDx Countdown yn fenter fyd-eang sy’n ysbrydoli cynnal digwyddiadau dan arweiniad cymunedau ar hyd a lled y byd i roi sylw i heriau mawr y dyfodol. Cydnabyddir budd cydweithio ar draws bob sector a diwydiant i ddod o hyd i’r datrysiadau a’r dyfeisiau mwyaf effeithiol a lunnir ar y cyd.
FIDEOS SGYRSIAU TED
Ysgol ClywedogThinking Like Bees |
Ysgol CerrigydrudionTaith Bwyd |
Ysgol AbererchManteision Garddio |
Ysgol San SiôrMicro Plastics |
|||
Ysgol MaesglasSchools as Solar Farms |
Ysgol CystenninSustainable Palm Oil |
Ysgol Castell AlunOcean Acidification |
Ysgol AlunMeat Free Monday |
|||
Ysgol PentrecelynCefnogi Bwyd a Chynnyrch Lleol |
Ysgol Castell AlunHow We All Need to Make Small Changes in the Fight Against Climate Change |
Ysgol y FoelClimate Neutral Schools |
Ysgol Uwchradd BodedernFfermio Fertigol |
|||
Ysgol AlunMaking a Difference |