Plant Milwyr
Mae plant milwyr yn byw ac yn mynychu’r ysgol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, nid ardaloedd ger gwersylloedd y Lluoedd Arfog yn unig.
O ganlyniad i’w rheini yn symud yn aml, gall fod amryw o effeithiau ar blant milwyr yn y cartref ac yn yr ysgol. Diffinnir Plentyn Milwr fel:
- Plentyn sydd ag un neu ddau riant sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd;
- Plentyn y mae ei riant / rhieni wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog o fewn y chwe blynedd diwethaf (cyn-filwr); neu
- Plentyn sydd â rhiant / rhieni sy’n gwasanaethu fel Milwyr Wrth Gefn ar hyn o bryd.
Ein cenhadaeth yw darparu’r cymorth addysgol gorau posibl i blant, trwy sicrhau bod gweithwyr addysg proffesiynol yn deall y materion y gallai plant Milwyr yng Nghymru eu hwynebu. Mae’n brosiect gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ers i’r prosiect ddechrau yn 2014, rydym wedi gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cymorth i gasglu eu safbwyntiau a’u profiadau, datblygu ein rhwydweithiau ar hyd a lled Cymru a pharhau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg gweithwyr addysg proffesiynol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu canllawiau ac adnoddau digidol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, wedi cynnal ein cynhadledd genedlaethol gyntaf ac wedi comisiynu ymchwil i ddeall anghenion plant Milwyr mewn addysg yn well. Helpwch ni i gasglu data ar y nifer a lleoliad o Blant Milwyr fel y gallwn sicrhau bod ysgolion yn buddio’n llawn o’r swm enfawr o adnoddau a chefnogaeth sydd ar gael iddynt. Cwblhewch y ffurflen yn y ddolen ganlynol i nodi’r nifer o Blant Milwyr yn eich ysgol (hyd yn oed os mae’n 0 ar hyn o bryd) neu rhowch ‘Anhysbys’ os nad ydy eich ysgol yn cynnwys hyn ar eich ffurflenni cofrestru ar hyn o bryd.