Cynhadledd i Arweinwyr Chweched Dosbarth
CYNHADLEDD I ARWEINWYR CHWECHED DOSBARTH
Dydd Iau, 22 Mawrth 2018 – 09:15-15:30 – Canolfan Fusnes a Chynadleddau Glasdir, Llanrwst
Mae GwE yn cynnal cynhadledd wedi’i hanelu at arweinwyr ac uwch arweinwyr chweched dosbarth sy’n gyfrifol am godi safonau ym Mlynyddoedd 12 a 13. Nod y gynhadledd yw canolbwyntio ar y ffordd y mae anelu’n uchel a safon y ddarpariaeth yn cyfrannu at well perfformiad.
Y Prif Siaradwyr:
- Tracey Greenaway-Jones, Prifathro Cynorthwyol Ansawdd a Safonau, Coleg Chweched Dosbarth Xaverian, Manceinion, a fydd yn canolbwyntio ar ei phrofiad o godi safonau a gwella ansawdd.
- Catherine Evans a Tony Sparks, ESTYN a fydd yn agor sesiwn y prynhawn gyda’r sgwrs ‘Ôl-16 o fewn y Fframwaith Arolygu’.
- Bethan Milton, Yr Uned Safonau a fydd yn rhoi’r manylion diweddaraf am fesurau perfformiad.
Bydd y gweithdai’n cynnwys:
- Creu Ethos o Ddysgu Annibynnol
- Disgwyliadau Uchel: Strategaethau Tracio, Monitro ac Ymyrraeth i Wella Cadwraeth
- Ymgysylltiad â Rhieni, Gofal, Cefnogaeth a Phresenoldeb
- ESTYN – profiad un ysgol o ôl-16 mewn arolwg llawn a thematig
- Bagloriaeth Cymru: manteision astudio’r Fagloriaeth a hybu Bagloriaeth Cymru gydag Addysg Uwch
- Sut mae Cyn-fyfyrwyr yn dylanwadu ar lwybrau gyrfaol
- Cyfoethogi ac Ehangu Gorwelion
- Troi graddau A / A* TGAU yn raddau A / A* mewn Lefel A