Shirley Clarke yn Cychwyn ar ei Gwaith yn y Rhanbarth
Mae Shirley Clarke, un o arbenigwyr rhyngwladol mwyaf ar asesu ffurfiannol, yn cychwyn ar ei gwaith gyda dau dîm o athrawon o 27 o ysgolion ar draws y rhanbarth yr wythnos yma – Chwefror 8 a 9.
Bydd y timau ymchwil gweithredol yn cydweithio gyda hi rhwng nawr a Thachwedd eleni. Edrychwn ymlaen at weld ffrwyth eu llafur ac i ddatblygu’r prosiect hwn ymhellach yn 2018-19. Bydd cyfle i rhwng 180 a 200 o ysgolion y rhanbarth ymuno â’r prosiect fis Medi 2018. Bydd gwybodaeth bellach a manylion ymgeisio yn dilyn yn ystod tymor yr Haf.
Yn y cyfamser ac er gwybodaeth, dyma restr o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil gweithredol ar hyn o bryd.
TÎM YMCHWIL 1 |
TÎM YMCHWIL 2 |
Ysgol Ffridd y Llyn / Beuno Sant, Gwynedd | Ysgol yr Hendre, Gwynedd |
Ysgol Pont y Gof, Gwynedd | Ysgol Llanrug, Gwynedd |
Ysgol Eifion Wyn, Gwynedd | Ysgol Bro Plenydd, Gwynedd |
Ysgol Bontnewydd, Gwynedd | Ysgol Bodfeurig / Tregarth, Gwynedd |
Ysgol Llannerch-y-medd, Ynys Môn | Ysgol Cefn Coch, Gwynedd |
Ysgol Uwchradd David Hughes, Ynys Môn | Ysgol Penybryn, Conwy |
Ysgol Deganwy, Conwy | Ysgol Llandrillo yn Rhos, Conwy |
Ysgol Glan Gele, Conwy | Ysgol Bro Gwydir, Conwy |
Ysgol y Foryd, Conwy | Ysgol Uwchradd y Creuddyn, Conwy |
Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, Conwy | Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Conwy |
Ysgol Uwchradd Eirias, Conwy | Ysgol Cae’r Nant, Sir y Fflint |
Ysgol Merllyn, Sir y Fflint | Ysgol Sandycroft, Sir y Fflint |
Ysgol Heulfan, Wrecsam | Ysgol Victoria, Wrecsam |
Ysgol Sant Dunawd, Wrecsam |