Modelau Dysgu Cyfunol
Erbyn dechrau mis Medi, bydd Llywodraeth Cymru wedi darparu dogfennau canllaw i ysgolion fel a ganlyn:
- canllawiau parhaus ar faterion gweithredol wrth i ysgolion ddysgu mwy am sut i weithredu mewn amgylchedd sy’n ddiogel rhag COVID;
- modelau gweithredu penodol i gefnogi gwneud penderfyniadau ar lefel ysgol;
- canllawiau dysgu parhaus i gefnogi Penaethiaid ac athrawon i fynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd yn yr amodau gweithredu newydd;
- canllawiau cwricwlwm i gefnogi gwireddu’r cwricwlwm;
- canllawiau dysgu cyfunol a dysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion i ddefnyddio i’r eithaf y gwersi cadarnhaol a ddysgwyd dros y misoedd diwethaf;
- canllawiau i gefnogi rhoi’r Rhaglen Dysgu Carlam ar waith; a
- dogfennau a gweithgareddau i gefnogi’r drafodaeth genedlaethol am addysgeg, addysgu a dysgu.
Mae’r canllawiau hyn yn ychwanegu at ‘Datblygu dulliau integredig i gefnogi dysgu cyfunol ar gyfer agor ysgolion yn raddol’ a gyhoeddwyd ar 29 Mehefin 2020. Gan y bydd ysgolion ar agor ym mis Medi i bob disgybl, gellir defnyddio’r canllawiau hyn i ysgogi trafodaethau dysgu proffesiynol am:
- ddulliau dysgu ac addysgu;
- cynllunio profiadau dysgu ar gyfer dysgwyr;
- cynllunio ar gyfer y dysgwyr hynny nad ydynt yn ymgysylltu’n llawn, neu’r dysgwyr hynny sy’n penderfynu nad yw dychwelyd i’r ysgol yn briodol ar hyn o bryd;
- cyfathrebu effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref;
- adborth a blaenborth effeithiol;
- dulliau cynllunio posib a chynllunio ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru;
- sut i reoli dysgu cyfunol os bydd cyfnod clo arall.