Gweminarau
Gweminarau GwE yn ein Canolfan Cefnogaeth
Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i’r dudalen Gweminarau GwE yn ein Canolfan Cefnogaeth:
https://sites.google.com/hwbcymru.net/gwegweminarau/gweminarau
Sesiynau Syrjeri Dysgu Cyfunol @ GwE
Rydym yn awyddus i gynnig sesiwn ‘Syrjeri Dewisol’ i Bennaeth a / neu Athrawon ar y modelau dysgu cyfunol a’r enghreifftiau, diweddariad digidol a chynlluniau i gefnogi ysgolion gyda cynlluniau dysgu cyflym. Bydd y sesiwn yn gyfres o 3 cyflwyniad byr ac yn gyfle i chi ofyn cwestiynau am yr hyn rydych chi wedi’i glywed a’i weld gan YCG GwE sydd wedi bod yn rhan o’r tîm yn eu datblygu.
Sesiwn cyfrwng Cymraeg 16:00 – 17:15 ddydd Mercher a Ddydd Iau 15 a 16 Gorffennaf.
Dydd Mercher16:00
|
Dydd Iau16:00
|
Dolen i’r fersiwn Saesneg: https://youtu.be/flvrg_0pX2U
Cyflwyniad i Hwb i Ysgolion Cynradd
Yn y gweminar hwn byddwn yn rhoi trosolwg o’r holl wasanaethau sydd ar gael drwy lwyfan dysgu digidol Hwb. Bydd hwn yn gyfle i ymarferwyr ystyried pa wasanaethau sy’n mynd i’w helpu i ddatblygu a hwyluso’r addysgu a dysgu yn ystod y cyfnod hwn o ddysgu o bell ac ar ôl iddynt ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer pob athro ac athrawes, arweinwyr canol ac uwch arweinwyr o’r sector cynradd. Byddwn yn rhoi trosolwg byr o’r gwasanaethau canlynol:
– Flipgrid
– Google for Education
– Screencastify
– Office 365
– J2E
– Adobe Spark
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal drwy MS Teams a bydd cyfle i chi yrru cwestiynau i’r tîm yn ystod y cyflwyniadau. Rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho y fersiwn llawn o MS Teams cyn ymuno drwy ddilyn y camau canlynol – https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app . Gallwch hefyd ymuno drwy app Teams ar ddyfais symudol. Ar ôl lawrlwytho Teams bydd rhaid i chi fewngofnodi drwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb. Os fyddwch yn mewngofnodi yn defnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol ni fyddwch yn gallu ymuno. Ar ôl i chi wneud hyn cliciwch ar y linc isod i ymuno. Gweminar yw hwn felly ni fydd eich camera a’ch meicroffon yn cael ei ddefnyddio.
Cliciwch yma i ail-weld y sesiwn Cymraeg.
Cliciwch yma i ail-weld y sesiwn Saesneg.
Gweminar Uwchradd – Cyflwyniad i Hwb
Dyma gyflwyniad i holl wasanaethau Hwb sydd ar gael i bob athro a disgybl drwy’r wlad. Mae adnodd i gyd fynd â’r sesiwn er mwyn eich cyfeirio at adnoddau dysgu proffesiynol pellach pe bai chi’n dymuno dysgu mwy am unrhyw agwedd a drafodwyd yn ystod y gweminar – https://spark.adobe.com/page/MAoDh3m4uv4Yb/