Select Page
     
    
    
        
    

Dileu Rhwystrau Difreintedd

Cynhadledd Ranbarthol GwE: ‘Dileu Rhwystrau Difreintedd’

Venue Cymru, Llandudno, 9 Tachwedd 2015

Mae GwE wedi ymrwymo i sicrhau na ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc o fewn y Rhanbarth fod o dan anfantais oherwydd tlodi ac anghydraddoldeb. Mae addysg a sgiliau yn hollbwysig er mwyn gwella cyfleoedd bywyd, ond mae deilliannau addysgol plant yn fwy tebygol o gael eu llywio gan eu cefndir cartref na chan eu nodweddion personol.

Mae plentyn o deulu tlawd yn debygol o ddechrau yn yr ysgol gyda llai o eirfa na phlentyn o deulu mwy cefnog, ac mae effaith andwyol tlodi yn parhau i dyfu gydol ei flynyddoedd yn yr ysgol. O’i gymharu â phlentyn o deulu cefnog, gall yr effeithiau cronnus olygu y bydd yn llai na hanner mor debygol o ennill pum cymhwyster TGAU da, gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg Iaith Gyntaf a Mathemateg; yn llai tebygol o fynd ymlaen i addysg bellach neu Uwch ac yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mae’r ffactorau sy’n sail i hyn yn niferus ac yn gymhleth, ond mae rhai plant yn llwyddo er gwaethaf y rhwystrau ac mae rhai ysgolion yn gwneud cyfraniad sylweddol i’w cynorthwyo i wneud hynny.

Thema’r Gynhadledd yw ‘Dileu Rhwystrau Difreintedd’

Rhan allweddol o’r Gynhadledd fydd cyflwyniadau gan ysgolion ar ddefnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn effeithiol, a fydd yn cynnwys:

  • Ymgysylltu â’r teulu a’r gymuned
  • Y blynyddoedd cynnar
  • Dysgu ac addysgu o safon uchel
  • Disgwyliadau a dyheadau uchel

Y prif siaradwr yn y Gynhadledd fydd:

Syr John Jones

Dyma fideo byr o’r Gynhadledd: