Select Page
     
    
    
        
    

Cynhadledd – Dysgu ac Addysgu – Gwthio’r Ffiniau

Cynhadledd Ranbarthol GwE – ‘Dysgu ac Addysgu – Gwthio’r Ffiniau’

Dydd Iau, 16 Chwefror 2017

Venue Cymru, Llandudno

Cynhaliodd GwE eu trydedd Cynhadledd flynyddol yn Venue Cymru, Llandudno, Gogledd Cymru ar ddydd Iau, Chwefror 16eg, 2017.

Thema’r Gynhadledd eleni oedd ‘Dysgu ac Addysgu – Gwthio’r Ffiniau’. Mae gwella cyrhaeddiad addysgol yn flaenoriaeth i bob ysgol, y brif ffordd I gyflawni hyn yw gwella ansawdd yr addysgu.

Yn nosbarthiadau yr athrawon gorau mae disgyblion yn dysgu ar ddwywaith y gyfradd maent yn ei wneud yn nosbarthiadau athrawon ‘cyffredin’ ac yn nosbarthiadau yr athrawon lleiaf effeithiol cymer yr un dysgu bedair gwaith mwy o amser. Yn ogystal, gydag addysgu effeithiol, mae disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn dysgu cymaint a’r rhai o gefndiroedd breintiedig, a’r rhai sydd ag anawsterau ymddygiad yn dysgu cymaint â’r rhai heb anawsterau.

“Rydym bellach yn gwybod mai’r athro yw’r dylanwad mwyaf pwerus ar faint mae myfyriwr yn dysgu a gall athrawon barhau i wneud gwelliannau sylweddol yn eu hymarfer drwy gydol eu gyrfa gyfan”.
William D: ‘ Embedded Formative Assessment (2011) 

Yr athrawon sydd yn cael yr effaith fwyaf yw’r rhai sy’n barod i newid eu hymarfer ac sy’n cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Mae addysgu yn grefft mor gymhleth fel nad yw’n hawdd ei meistroli, fodd bynnag, trwy ganolbwyntio ar ymarfer ac ymrwymiad i welliant parhaus, gall athrawon barhau i wella drwy gydol eu gyrfa a thrwy hynny wella allbynnau ar gyfer eu disgyblion.

Prif siaradwyr yn y Gynhadledd fydd:

 

  • Richard Gerver
  • Hywel Roberts
  • Ian Gilbert