Cynhadledd Ranbarthol i Ysgolion Cynradd
Cynhadledd Ranbarthol GwE ar gyfer Penaethiaid Cynradd: ‘Cydweithio Effeithiol ar gyfer Gwelliant Parhaus’
VENUE CYMRU, LLANDUDNO – DYDD MAWRTH, 26 MEDI 2017
Bydd GwE yn cynnal Cynhadledd i Benaethiaid a Dirprwy Benaethiaid Cynradd yn Venue Cymru, Llandudno, Gogledd Cymru ar ddydd Mawrth, Medi 26ain, 2017.
Prif Siaradwyr:
- Chris Boardman MBE – Enillydd medal aur Olympaidd am seiclo, y cyntaf i Brydain mewn 72 mlynedd.
- Gervase Phinn – Darlithydd, darlledwr ac awdur a chyn Ymgynghorydd ac Arolygydd Ysgolion.
Er mwyn sicrhau cydweithio effeithiol ar lefel Rhanbarthol, mae’n bwysig bod GwE yn gwrando ar lais Penaethiaid a’u staff er mwyn cyd-gynllunio cyfeiriad strategol a gweithredol fel y gallwn deilwra cefnogaeth bwrpasol er mwyn codi safonau ymhellach yn ein hysgolion.
Mae cydweithio effeithiol yn gwella perfformiad athrawon, mae hefyd yn gwella perfformiad disgyblion. Wrth gynyddu cydweithio effeithiol mae athrawon yn dod ar draws arferion gwell, sy’n arwain at addysgeg gryfach. Po fwyaf effeithiol yw’r athro, y mwyaf y gall disgybl elwa. Mae hefyd yn sicrhau nad yw cymwyseddau pwysig yn cael eu cyfyngu i nifer cyfyngedig o ymarferwyr ond eu bod yn cael eu dosbarthu mor eang ag y bo modd.
Efallai mai’r agwedd bwysicaf o gydweithio yw ei botensial i gryfhau’r arweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn gwella addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Bydd y Gynhadledd yn gyfuniad o brif siaradwyr a cyflwyniadau ymgynghori ar agweddau amrywiol ar gyfer cydweithio effeithiol mewn perthynas ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth.