Select Page

Parhad Dysgu

Cadw Cymru’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu.

Diolch am eich ymroddiad dros yr wythnosau diwethaf.

Fel y gwyddoch, ddydd Llun (20/04/20) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei pholisi i gefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod o darfu parhaus oherwydd Covid-19. Bwriad datganiad polisi Cadw’n Ddiogel. Dal ati i ddysgu: Parhad Dysgu yw sicrhau lles staff a dysgwyr ar draws y wlad tra y byddant yn cefnogi dysgwyr i gael mynediad at ddysgu o bell. Mae pob un ohonom yn cydnabod bod staff ar draws ein hysgolion wedi bod yn gwneud gwaith gwych o ymgysylltu â dysgwyr a gwarchod eu lles ers atal y cwricwlwm ar 20fed Mawrth 2020.  Rydym ni hefyd yn cydnabod bod ysgolion ar wahanol bwyntiau o ran datblygu eu strategaeth dysgu o bell.

Fel rhan o’r rhaglen hon, mae consortia gwella ysgolion rhanbarthol, ar y cyd ag Estyn a CCAC, wedi datblygu’r cyngor hwn ar gyfer lleoliadau, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCD) i’w cefnogi yn eu gwaith gyda dysgwyr. Nid yw’r ddogfen hon yn statudol.

Gellir darllen y cyngor hwn ar y cyd â’r cyngor ar barhau â busnes ysgol ac UCD yn ystod pandemig COVID-19.

 

Mae hefyd yn ymwneud â chyngor i rieni/gofalwyr drwy’r rhaglen ‘Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu‘ a’r offer Dysgu o Bell drwy Hwb

 

Yn ogystal â’r arweiniad, mae adnoddau ar gael i helpu paratoi gweithgareddau dysgu. Rhennir y rhain gyda chi drwy eich Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant.

Fel rhan o ddatblygu a gweithredu Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu, bydd GwE, ar y cyd ag awdurdodau lleol, yn gweithio gydag ysgolion i adnabod cyfleoedd i gefnogi arweinwyr a staff addysgu. Fel y cyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg yr wythnos ddiwethaf, bydd yr elfennau cyntaf o gefnogi yn:

  • mynd i’r afael â’r gwaharddiad digidol drwy weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion ar gael mynediad ehangach at Hwb a’i gyfleoedd dysgu, a mynd i’r afael â materion offer a chysylltedd
  • darparu arweiniad a chefnogaeth i staff ysgolion wrth ddatblygu ymarfer yn y ffordd newydd o ddysgu
  • darparu arweiniad a chefnogaeth i ysgolion ar ddefnyddio Hwb er mwyn parhau â busnes yr ysgol

Gallai ychydig o amser fynd heibio cyn y medrwn ddychwelyd i ysgolion sy’n gweithredu yn y dull rydym yn ei ystyried yn fwy traddodiadol, ond, mae wedi bod yn galonogol gweld yr ystod eang o bartneriaethau ar hyd y wlad yn dod at ei gilydd i ddarparu dogfennau canllaw i ysgolion a all fod angen cymorth ychwanegol i elwa’n llawn o’u strategaeth dysgu digidol.

Hoffem ddiolch i bob un ohonoch am y ffordd rydych chi wedi ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu yn y cyfnod hwn.  Mae hon yn ffordd newydd o weithio i bawb, a byddwn yn parhau i’ch cefnogi chi wrth i ni barhau ar y daith hon.

 

CYSYLLTIADAU: