PWYSIG: COVID 19
Cymwysterau Cymru / Diweddariad Coronavirus – Covid-19
Mae ysgolion ar gau ac mae’r arholiadau haf yn cael eu canslo oherwydd y pandemig coronafirws.
Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb. Rydyn ni’n gwybod bod gennych chi lawer o gwestiynau am yr hyn sy’n digwydd nesaf, gan gynnwys sut y bydd dysgwyr yn cael eu graddio eleni.
Am y gwybodaeth fwyaf diweddar dilynwch y linc isod sy’n gynnwys cyfres o gwestiynau a blogiau cyffredin gan ein Prif Weithredwr ac uwch staff. Gellir weld datganiadau perthnasol gan Lywodraeth Cymru, CBAC a phartneriaid eraill yn y sector addysg yn y bwydlenni ar y chwith.
https://www.qualificationswales.org/cymraeg/coronafeirws—covid-19/
PWYSIG – DIWEDDARIAD COVID19: 20 MAWRTH 2020
Ymhellach i neges 16 ac 17 Mawrth 2020 ynglŷn â’n bwriad i gasglu a rhannu â chi adnoddau a deunyddiau dysgu o bell i chi eu defnyddio gyda’ch dysgwyr.
Cam 1
Mae llwyfan Google Classroom wedi’i sefydlu. Mae adnoddau cychwynnol wedi eu huwchlwytho. Mae’r rhain yn cynnwys amrediad o adnoddau ymarferol ar gyfer meysydd dysgu/pynciau ym mhob cyfnod allweddol, a bydd rhagor yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd.
Cam 2
Canllawiau Dysgu o Bell GwE
Bydd nifer ohonoch yn darparu gwaith i ddisgyblion drwy wahanol gyfryngau digidol yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Er mwyn eich cefnogi, rydym wedi darparu canllawiau ac ystyriaethau allweddol y dylech eu trafod gyda’ch staff i sicrhau defnydd priodol a diogel o’r cyfrwng hwn. Yn ogystal, mae rhestr wirio ‘defnydd derbyniol’ y gallwch ei defnyddio gyda’ch disgyblion fel eu bod yn deall y disgwyliadau ohonynt.
Mae’r wybodaeth wedi’i hychwanegu i’r wefan a rannwyd â chi ar ddechrau’r wythnos o dan y pennawd ‘Dysgu o Bell’
https://sites.google.com/hwbcymru.net/gwe-adnoddauresources/
Gan y bydd defnydd cynyddol o wasanaethau digidol dros yr wythnosau nesaf mae GwE yn coladu sawl ffynhonnell arweiniad i’ch cefnogi, beth bynnag yw eich lefel o brofiad yn y maes. Fel man cychwyn mae arweiniad ar Google Classroom a Microsoft Teams wedi ei ddarparu. Byddwn yn ychwanegu mwy o arweiniad ar wahanol adnoddau sy’n cefnogi ‘dysgu o bell’ dros yr wythnosau nesaf.
Dyma gynnwys cyfredol y wefan:
GwE – Google Classrooms |
Gwybodaeth ar gyfer ymuno â’r ‘Google Classrooms’ canlynol: CS, CA2, CA3+4, Pynciau Craidd CA3, CA4 a CA5, Cymorthyddion |
Dysgu o Bell |
Arweiniad i’r meysydd isod: |
● Rhestr Wirio |
Canllawiau ac ystyriaethau allweddol y dylech eu trafod gyda’ch staff i sicrhau defnydd priodol a diogel |
● Ystyriaethau Allweddol |
Cyfres o awgrymiadau y dylech eu hystyried er mwyn sicrhau bod eich arferion dysgu o bell yn datblygu’n ddiogel ac yn effeithiol |
● Cefnogaeth Google Suite |
Gwybodaeth a fideos defnyddiol y gallwch eu rhannu â dysgwyr, athrawon a rhieni e.e. Defnyddio Google Classroom ac arfau eraill gan Google |
● Cefnogaeth Microsoft |
Gwybodaeth a fideo defnyddiol y gallwch eu defnyddio er mwyn defnyddio Microsoft Teams |
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Consortia eraill i rannu adnoddau er mwyn ehangu’r amrediad fydd ar gael i chi. Yn y pythefnos nesaf, byddwn hefyd yn trafod gyda’r Llywodraeth, Estyn a’r Academi Arweinyddiaeth Genedlaethol er mwyn ystyried posibiliadau ehangach o ran rhannu adnoddau a hybu dysgu proffesiynol.
Er mwyn sicrhau bod pob maes dysgu/pwnc yn cynnwys amrediad mor eang â phosibl o adnoddau, gofynnwn yn garedig i ysgolion hefyd ystyried cyfrannu i’r adnoddau drwy rannu eu deunyddiau dysgu ac addysgu eu hunain. Gellir eu huwchlwytho drwy’r Stream yn Google Classroom neu eu gyrru mlaen i adnodd@gwegogledd.cymru. Bydd rhannu yn sicrhau bod athrawon yn cael mynediad i’r amrediad ehangaf bosibl o ddeunyddiau i helpu eu dysgwyr gyda dysgu o bell. Mae’r sefyllfa ddifrifol, unigryw yr ydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd fel proffesiwn yn gofyn am gydweithrediad pob partner a rhanddeiliad. Bydd angen i athrawon wedyn addasu’r adnoddau sydd ar y llwyfan a’u defnyddio yn y ffordd orau gyda’u disgyblion.
Ceir arweiniad ar ddefnyddio llwyfannau dysgu o bell trwy ddilyn y ddolen hon:
https://hwb.gov.wales/dysgu-o-bell/
Yn ogystal ag ychwanegu rhagor o ddeunyddiau ar y llwyfan, byddwn hefyd dros yr wythnosau nesaf yn ceisio casglu a rhannu â chi gyfres o adnoddau dysgu o bell i gefnogi datblygiad proffesiynol eich staff gyda’r daith ddiwygio genedlaethol.
Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa yn ddyddiol ac yn eich diweddaru ar ein gwefan:
https://www.gwegogledd.cymru/pwysig-covid-19/ a’n cyfrif Twitter.
Yn ogystal â’ch diweddaru am gefnogaeth dysgu o bell mi fyddwn hefyd yn rhannu camau nesaf o ran sut yr ydym yn bwriadu eich cefnogi trwy’r cyfnod anodd hwn, fydd yn estynedig o bosib.