Gwybodaeth Grantiau Llywodraeth Cymru
Grant Datblygu Disgyblion
Grant Datblygu Disgyblion 2023-2024
Mae mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ym maes addysg. Mae gan y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth, a rhaid inni adeiladu ar yr arferion effeithiol sydd eisoes yn bodoli drwy sicrhau ein bod yn targedu’r cyllid yn y ffordd orau bosibl.
Fel y gwyddoch, nododd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ei weledigaeth yn ei araith bwysig Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb ar gyfer Sefydliad Bevan ym mis Mehefin 2022. Yn yr araith, tynnodd sylw at bwysigrwydd y meysydd allweddol canlynol:
- Dysgu ac Addysgu o Ansawdd Uchel
- Ysgolion Bro
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar gynt)
- Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc
- Datblygu dyheadau uchelgeisiol drwy gydberthnasau cryf
- Y Cwricwlwm i Gymru a Chymwysterau
- Arweinyddiaeth
- Cefnogi cynnydd ôl-16
Ym mis Mawrth 2023, fe wnaeth y Gweinidog hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y map trywydd newydd ar gyfer addysg, sef Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb. Mae’r map trywydd hwnnw yn nodi’r camau gweithredu rydym yn eu cymryd ar y cyd ar gyfer addysg. Mae’r Gweinidog wedi pwysleisio sut y mae rhaid inni edrych ar bob cam gweithredu yn fanwl i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar ddeilliannau addysgol.
Dylid defnyddio’r GDD i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol uchod, yn enwedig Dysgu ac Addysgu o Ansawdd Uchel, a Ysgolion Bro, sydd o’r pwys mwyaf yn ôl y dystiolaeth, yn enwedig felly wrth i ysgolion fynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd.
Er mwyn llywio’r defnydd o’r GDD i gefnogi’r elfennau hyn, mae canllawiau sy’n benodol i gyd-destun Cymru bellach wedi’u llunio ar gyfer ysgolion, a hynny ar y dulliau mwyaf cadarn y dylent ystyried eu defnyddio, ar sail tystiolaeth. Mae’r rhain bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac fe’u rhannwyd â phob pennaeth yng Nghymru ar 26 Mai: https://www.llyw.cymru/canllaw-ir-grant-datblygu-disgyblion-html.