Ieithoedd Tramor Modern
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Dyfodol Byd-eang ac ymrwymiad i ehangu addysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru. Y weledigaeth yw i Gymru ddod yn genedl gwirioneddol amlieithog. Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn gweddnewid ein cyfundrefn addysg ac yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddysgu iaith ar draws ein holl ysgolion a’n lleoliadau.
Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael profiad o’r amryw o fanteision a ddaw wrth ddysgu Ieithoedd Rhyngwladol, gan gynnwys ehangu eu gorwelion trwy ddysgu am bobl a diwylliannau eraill a rhoi iddynt y sgiliau iaith i gystadlu yn yr economi fyd-eang. Wrth wneud hyn, gallwn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.
Y prif strategaeth yw rhoi ein hamser, ein gwybodaeth a’n harbenigedd i’n hysgolion a’n hathrawon er mwyn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd wrth ddysgu iaith, yn ogystal â chyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r cynllun tair blynedd newydd ar gyfer 2022-2025 yn gosod allan dri nod strategol:
- cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru
- rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau i’n hymarferwyr i gynllunio a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol
- herio’r camdybiaethau o ran dysgu ieithoedd
Braint yw parhau yn fy rôl fel Arweinydd Dyfodol Byd-eang a Ieithoedd Rhyngwladol Consortiwm GwE yn y cyfnod newydd a chyffrous hwn.
Yma yng ngogledd Cymru, mae ein hathrawon ITM a’n cyd-weithwyr cynradd yn ymroddgar ac yn hynod dalentog, wastad yn gwneud eu gorau glas i roi’r profiadau dysgu gorau i’w myfyrwyr.
Dyna pam yr wyf i’n ffyddiog y gallwn ni, ac y byddwn ni, gyda’n gilydd, yn parhau i ddatblygu ein gwaith er mwyn hyrwyddo a darparu’r profiadau dysgu iaith gorau un i ddysgwyr.
Rwy’n ffodus iawn o gael tîm anhygoel o fy nghwmpas yn y sector cynradd a’r uwchradd. Gyda’n partneriaid Dyfodol Byd-eang gallwn ddarparu ystod eang a rhaglen gyfoethog o gefnogaeth a chyfleoedd i ddysgwyr, ymarferwyr a lleoliadau ysgol.
O ddysgu proffesiynol i gymorth ysgol i ysgol pwrpasol, mae ein gwaith yn cyfrannu at ddatblygiadau Cwricwlwm i Gymru.
Dylai Canolfan Cefnogaeth GwE, y newyddlenni bob hanner tymor, y negeseuon e-bost, Bwletin GwE a Twitter roi’r rhan fwyaf o wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y datblygiadau newydd mewn Ieithoedd Rhyngwladol yn GwE.
Ond cofiwch, mae croeso i chi gysylltu â mi a Thîm Dyfodol Byd-eang cynradd neu uwchradd GwE unrhyw bryd am fwy o fanylion neu i ofyn cwestiwn. Byddwn bob amser yn barod i helpu.
Stephanie Ellis-Williams
Arweinydd Dyfodol Byd-eang / Ieithoedd Rhyngwladol GwE
stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru
0300 5008087 / 07970 964117
Cysylltiadau a Dolenni Defnyddiol
Tîm Cynradd Dyfodol Byd-eang GwE
YSGOL |
ALL |
CYDLYNYDD IRH |
CYFEIRIAD E-BOST CYSWLLT |
Beddgelert | Gwynedd | Esyllt Williams | WilliamsE1863@hwbcymru.net |
Y Golftyn CP | Sir y Fflint | Claire Thompson | ThompsonC50@hwbmail.net |
Clawdd Offa | Sir Ddinbych | Angharad Lloyd | BeckA6@hwbcymru.net |
St Brigids | Sir Ddinbych | Emma Adams | CooperE87@hwbcymru.net |
Penysarn | Ynys Môn | Delyth Roberts | 6602162_pennaeth.penysarn@hwbcymru.net |
Mountain Lane | Sir y Fflint | Ffion Zachary | ZacharyF@hwbcymru.net |
Y Tudweiliog | Gwynedd | Julie Williams | williamsj99@hwbcymru.net |
Deganwy | Conwy | Lisa Eardley | EardleyL9@hwbcymru.net |
Northop Hall | Sir y Fflint | Joanne Griffith | GriffithJ14@hwbcymru.net |
Ar gael am gymorth, cyngor neu anghenion penodol.
Tîm Uwchradd Dyfodol Byd-eang GwE
Arweinydd Hwb Wrecsam / Sir y Fflint | Lynette Sloan | Ysgol y Grango | Sloan10@hwbcymru.net |
Arweinydd Hwb Conwy / Sir Ddinbych | Viviane Vick | Prestatyn High | vvick@prestatynhigh.co.uk |
Jamie McAllister | Ysgol Aberconwy | Jamie.mcallister@aberconwy.conwy.sch.uk | |
Arweinydd Hwb Gwynedd / Ynys Môn | Emma Green | Ysgol Dyffryn Ogwen | greene54@hwbcymru.net |
Ar gael am gymorth, cyngor neu anghenion penodol.