Select Page
     
    
    
        
    

Cracio’r Côd – Cyfarfod ‘Digimeet’

DYDD MERCHER, 21 MAWRTH 2018 – 16:00-17:30 – CANOLFAN OpTIC, LLANELWY

Dyma gyfle cyffrous i weld beth mae ysgolion sy’n rhan o raglen ‘Cracio’r Cod’ wedi bod yn ei wneud gyda’u disgyblion i ddatblygu eu sgiliau codio. Cewch hefyd weld sut y gall eich ysgol chi fod yn rhan o’r rhaglen. Byddwch yn symud o’r naill fwrdd i’r llall, mewn grwpiau bach, i weld sut mae ysgolion wedi:

  • defnyddio’r micro reolydd ‘crumble’ i greu prosiectau ‘cyfrifiadura ffisegol’;
  • datblygu sgiliau codio gan ddefnyddio pecynnau dyfeiswyr a micro:bit y BBC i greu prosiectau electronig syml;
  • dysgu rhaglennu testunol drwy chwarae Minecraft;
  • corffori codio ar draws y cwricwlwm;
  • cynnwys disgyblion y Cyfnod Sylfaen mewn gweithgareddau codio;
  • defnyddio’r adnoddau sy’n rhad ac am ddim drwy Hwb i gyflwyno codio a meddwl cyfrifiadurol;
  • defnyddio teganau codio fel drôn i ddysgu rhaglennu;
  • defnyddio adnoddau ac apiau, yn rhad ac am ddim ar y we, i ddatblygu sgiliau disgyblion ymhellach.

Bydd cynrychiolwyr hefyd o’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn wrth law i ddangos y cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ganddynt i gefnogi ysgolion ymhellach gyda chodio:

  • Code Club/Raspberry Pi Foundation – rhwydwaith cenedlaethol sy’n darparu gwirfoddolwyr ac adnoddau, am ddim, i helpu ysgolion gynnal clybiau codio
  • Pimoroni – yn cyflenwi pecynnau ac ategolion i wneud electroneg a chodio yn syml a hwyliog
  • Kitronik – yn cynllunio a chyflenwi pecynnau electronig gan gynnwys pecyn dyfeiswyr micro:bit y BBC, a ddefnyddir gan ysgolion ar raglen ‘Cracio’r Cod’
  • Redfern Electronics – sydd wedi creu ac yn cyflenwi’r micro reolydd ‘Crumble’ a ddefnyddir gan ysgolion ar raglen ‘Cracio’r Cod’
  • British Computer Society – sefydliad sy’n ceisio gwella gwaith creu, astudio a chymhwyso gwybodaeth mewn cyfrifiadureg er budd cymdeithas
  • Barefoot computing – yn cynnal sesiynau DPP, yn rhad ac am ddim, ac yn darparu adnoddau i athrawon cynradd allu cyflwyno sgiliau codio yn y cwricwlwm.

Carwyn Edwards o North Wales Tech (cymuned dechnoleg a datblygu Gogledd Cymru) fydd y siaradwr gwadd. Bydd Carwyn yn dangos sut mae codio yn hanfodol i’r economi leol a chyfleoedd gwaith i’n disgyblion yn y dyfodol, yn ogystal â datblygu sgiliau gydol oes fel datrys problemau a gwydnwch.

Hefyd, bydd gennym WOBRAU i ysgolion gydag adnoddau a phecynnau codio i’w hennill, a hefyd GWOBR UNIGOL i’r person cyflymaf i ‘Gracio’r Cod’ mewn CYSTADLEUAETH GYFFROUS….

Felly, cadwch le i osgoi cael eich siomi